Cof gennyf rywun yn Aber aeth ati i osod cyfieithiadau
answyddogol o arwyddion y Coleg. Yn anffodus, nid oedd 'Ceir y Staff' am
Staff Vehicles wrth fodd cyfieithydd answyddogol arall, a disodlwyd y
trosiad cyntaf gan un yn darllen Cerbydau'r Osgordd - oedd ddim yn
cyfleu'r un peth o gwbl.
Yn iach,
Tim
Tim
Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Rhondda Cynon Taf County Borough
Council
Fedra i weld pam bod gosgordd ella i'w glywed braidd fel
brenhinoedd/tywysogion y oesoedd a fu. Ond yr un ydi'r egwyddor, ynte - pobol a
chanddyn nhw ryw gyfenw arbennig (Windsor yn yr achos yma) sy'n byw'n fras ar
draul y boblogaeth...?
Anna