Cwestiwn od beth bynnag.
Ann
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On
Behalf Of Rhian Jones
Sent: 02 August 2012 15:03
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: "willy"
"minnie / "foof"
Wela i. Dw i’n meddwl
baswn inne’n rhoi to bach felly. Ma pobol yn rhoi geiriau yng nghegau plant
bach yn rhy ifanc yntydyn - mae’r oes di newid!
Rhian
From: [log in to unmask]">Sian
Roberts
Sent: Thursday, August 02,
2012 2:48 PM
Subject: Re:
"willy" "minnie / "foof"
Mae'r cwsmer yn dymuno
defnyddio "foof" /( "ffŵff" / "ffwff"?).
Roeddwn i wedi dweud
"Oes gan y ddynes yna ffani?" (neu fersiwn ddeheuol) ond fe wnaethon
nhw ei newid i "Oes gan y ddynes yna foof?" Dw i wedi esbonio
nad yw'r gair yn gyfarwydd i lawer o bobl ac y byddai angen Cymreigio'r
sillafiad beth bynnag. Maen nhw wedi cytuno i gynnwys gair arall hefyd - Rhywbeth
fel "Oes gan y ddynes yna ffŵff/ffani?"
Oes 'na air mwy
derbyniol na "ffani" sy'n mynd i fod yn ddealladwy i bawb?
Does dim byd addas yn
GyrA, gwaetha'r modd - cojen, pethma, fflabatsh, siolen, bechingalw,
siobet. Meddwl mod i wedi gweld "siop fach" yn rhywle hefyd.
Diolch
Siân
On 2 Awst 2012, at
14:32, Rhian Jones wrote:
Ond os ydi’r rhieni
cyffredin rywbeth yn debyg i ni fydden nhw ddim yn gwybod be di ystyr y gair
heb sôn am sut i’w sillafu o. Tase un o mhlant i wedi gofyn i mi ‘Oes gan y
ddynes yna ffwff’ faswn i wedi gorfod gofyn be di hwnnw .. Falle mai wedyn
baswn i’n cochi!
Rhian
From: [log in to unmask]">Sian
Roberts
Sent: Thursday, August 02,
2012 2:26 PM
Subject: Re:
"willy" "minnie / "foof"
Wel, ydi'r
"w" yn hir, 'ta'n fyr? Odli â "cwch" 'ta
"fflwff"?
Dwi'n meddwl bod angen
acen os yw'r "w" yn hir achos fe allai'r un mor hawdd fod yn fyr ac
mae angen gwahaniaethu!!
Diolch
Siân
On 2 Awst 2012, at
14:21, Muiris Mag Ualghairg wrote:
Dw i ddim yn gwybod,
tan heddiw doeddwn i ddim wedi gweld y gair wedi'i ysgrifennu! Ond, a oes angen
to bach ar w oni bai ei fod yno i wahaniaethu rhwng gair arall sydd a'r un
sillafiad? Os felly, ni fyddai angen to bach.
Muiris
2012/8/2 Sian Roberts
<[log in to unmask]>
Diolch i bawb am eu
help.
Un cwestiwn, Muiris -
A oes to ar yr "w" yn "ffwff"?
Ac a oes gair arall
fyddai'n fwy cyfarwydd i bobl? Ffani?
Defnyddiau i rieni sy
gen i:
Have
a phrase ready for inappropriate moments. Children ask questions at
inappropriate moments – such as in the supermarket queue.
If
your child asked: “Does that lady have a foof?”
You
could respond saying: “That’s a good question; let’s talk about it when we get home.” And make sure you do.
Diolch
Siân
On 2 Awst 2012, at
10:56, Muiris Mag Ualghairg wrote:
Felly, nid yr un peth
a 'Ffwff' merched!
M
2012/8/2 Sioned
Graham-Cameron <[log in to unmask]>
tin neu ben ôl ydi
'tintws' i minna hefyd
Sioned
On 2 Aug 2012, at
10:53, Rhian Jones wrote:
Mae tintws yn fwy
cyffredinol yntydi - os nad ydw i wedi camddallt! – o’n i’n meddwl bod gan bawb
dintws! A does na ddim byd ‘personol’ iawn ynddo fo, fwy na jyst
‘tin’.
Rhian
From: [log in to unmask]">Geraint Lovgreen
Sent: Thursday, August
02, 2012 10:40 AM
Subject: Re:
"willy" "minnie / "foof"
O!!! nid gair am bidlen ydi minnie a foof
felly?
tintws ie?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]">Muiris Mag Ualghairg
Sent: Thursday, August 02, 2012 10:34 AM
Subject: Re: "willy" "minnie / "foof"
Ie, ffwff, neu ffwffw mae'r merched yn nosbarth fy mab yn ei ddweud - roedd yn newydd imi pan glywais i'r gair gyntaf.
Pidlen mae Eoin yn ei ddweud am ei ran breifat ef a dw i ddim yn gwybod beth mae'r bechgyn eraill yn ei ddweud.
2012/8/2 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
"foof" ???!!
----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, August 02, 2012 9:50 AM
Subject: "willy" "minnie / "foof"
Pa eiriau mae rhieni'n eu defnyddio gyda phlant bach y dyddiau 'ma - "wili"/ "pidlen"?
Ydi "foof" - "ffŵff" (?) yn gyffredin?
Diolch
Siân