Cwestiwn od beth bynnag. Ann _____ From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Jones Sent: 02 August 2012 15:03 To: [log in to unmask] Subject: Re: "willy" "minnie / "foof" Wela i. Dw i’n meddwl baswn inne’n rhoi to bach felly. Ma pobol yn rhoi geiriau yng nghegau plant bach yn rhy ifanc yntydyn - mae’r oes di newid! Rhian From: Sian <mailto:[log in to unmask]> Roberts Sent: Thursday, August 02, 2012 2:48 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: "willy" "minnie / "foof" Mae'r cwsmer yn dymuno defnyddio "foof" /( "ffŵff" / "ffwff"?). Roeddwn i wedi dweud "Oes gan y ddynes yna ffani?" (neu fersiwn ddeheuol) ond fe wnaethon nhw ei newid i "Oes gan y ddynes yna foof?" Dw i wedi esbonio nad yw'r gair yn gyfarwydd i lawer o bobl ac y byddai angen Cymreigio'r sillafiad beth bynnag. Maen nhw wedi cytuno i gynnwys gair arall hefyd - Rhywbeth fel "Oes gan y ddynes yna ffŵff/ffani?" Oes 'na air mwy derbyniol na "ffani" sy'n mynd i fod yn ddealladwy i bawb? Does dim byd addas yn GyrA, gwaetha'r modd - cojen, pethma, fflabatsh, siolen, bechingalw, siobet. Meddwl mod i wedi gweld "siop fach" yn rhywle hefyd. Diolch Siân On 2 Awst 2012, at 14:32, Rhian Jones wrote: Ond os ydi’r rhieni cyffredin rywbeth yn debyg i ni fydden nhw ddim yn gwybod be di ystyr y gair heb sôn am sut i’w sillafu o. Tase un o mhlant i wedi gofyn i mi ‘Oes gan y ddynes yna ffwff’ faswn i wedi gorfod gofyn be di hwnnw .. Falle mai wedyn baswn i’n cochi! Rhian From: Sian <mailto:[log in to unmask]> Roberts Sent: Thursday, August 02, 2012 2:26 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: "willy" "minnie / "foof" Wel, ydi'r "w" yn hir, 'ta'n fyr? Odli â "cwch" 'ta "fflwff"? Dwi'n meddwl bod angen acen os yw'r "w" yn hir achos fe allai'r un mor hawdd fod yn fyr ac mae angen gwahaniaethu!! Diolch Siân On 2 Awst 2012, at 14:21, Muiris Mag Ualghairg wrote: Dw i ddim yn gwybod, tan heddiw doeddwn i ddim wedi gweld y gair wedi'i ysgrifennu! Ond, a oes angen to bach ar w oni bai ei fod yno i wahaniaethu rhwng gair arall sydd a'r un sillafiad? Os felly, ni fyddai angen to bach. Muiris 2012/8/2 Sian Roberts <[log in to unmask]> Diolch i bawb am eu help. Un cwestiwn, Muiris - A oes to ar yr "w" yn "ffwff"? Ac a oes gair arall fyddai'n fwy cyfarwydd i bobl? Ffani? Defnyddiau i rieni sy gen i: Have a phrase ready for inappropriate moments. Children ask questions at inappropriate moments – such as in the supermarket queue. If your child asked: “Does that lady have a foof?” You could respond saying: “That’s a good question; let’s talk about it when we get home.” And make sure you do. Diolch Siân On 2 Awst 2012, at 10:56, Muiris Mag Ualghairg wrote: Felly, nid yr un peth a 'Ffwff' merched! M 2012/8/2 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]> tin neu ben ôl ydi 'tintws' i minna hefyd Sioned On 2 Aug 2012, at 10:53, Rhian Jones wrote: Mae tintws yn fwy cyffredinol yntydi - os nad ydw i wedi camddallt! – o’n i’n meddwl bod gan bawb dintws! A does na ddim byd ‘personol’ iawn ynddo fo, fwy na jyst ‘tin’. Rhian From: Geraint Lovgreen <mailto:[log in to unmask]> Sent: Thursday, August 02, 2012 10:40 AM To: [log in to unmask] Subject: Re: "willy" "minnie / "foof" O!!! nid gair am bidlen ydi minnie a foof felly? tintws ie? ----- Original Message ----- From: Muiris Mag Ualghairg <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, August 02, 2012 10:34 AM Subject: Re: "willy" "minnie / "foof" Ie, ffwff, neu ffwffw mae'r merched yn nosbarth fy mab yn ei ddweud - roedd yn newydd imi pan glywais i'r gair gyntaf. Pidlen mae Eoin yn ei ddweud am ei ran breifat ef a dw i ddim yn gwybod beth mae'r bechgyn eraill yn ei ddweud. 2012/8/2 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> "foof" ???!! ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Thursday, August 02, 2012 9:50 AM Subject: "willy" "minnie / "foof" Pa eiriau mae rhieni'n eu defnyddio gyda phlant bach y dyddiau 'ma - "wili"/ "pidlen"? Ydi "foof" - "ffŵff" (?) yn gyffredin? Diolch Siân