Clywch, clywch ynghylch ‘codi’.
“dwysáu/cynyddu ymwybyddiaeth o …” sydd gan Berwyn yn ei restr.
Hwyl
Llyr
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 02 August 2012 13:51
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Raising awareness
Gas gin i'r ddau. I mi maen nhw'n drewi o gyfieithiad. Ella mod i'n dipyn o ddinosor, dwn i ddim. 'Rhoi lle amlycach i' fydda i'n ei ddeud bob gafael. Os oes rhaid cadw'r gair 'ymwybyddiaeth' byddai 'cynyddu' neu 'chwyddo' yn well na 'codi', ddyliwn - onid ydi 'codi' yn y cyd-destun yma'n gyfieithiad llythrennol o'r Saeseg? Neu gael hyd i ffordd o droi'r frawddeg rownd i ddeud 'ymwybodol' yn lle 'ymwybyddiaeth'.
Anna
'am' neu 'o' sy'n gywir? Neu'r ddau?
Wrth gwglo, mae tua'r un faint o atebion yn dod am 'godi ymwybyddiaeth o' a 'codi ymwybyddiaeth am' - y cynta sy'n swnio'n iawn i mi, ond ydy'r ddau'n dderbyniol?