Diolch Dwi'n meddwl mod i wedi penderfynu mynd am "maetholyn" erbyn hyn achos, fel rwyt ti'n dweud, dyna sydd i'w weld yn y rhan fwyaf o ddefnyddiau addysgol a dyna beth sy gen i yma. Er, mae rhywbeth i'w ddweud dros "maethyn(nau)" hefyd, dwi'n siwr. Siān On 1 Awst 2012, at 08:49, Sian Reeves wrote: > 'maetholyn' yw'r term mae athrawon Bioleg yn ei ddefnyddio wrth > ddysgu'r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg ac sydd ar bapurau arholiad CBAC. > > From: Sian Roberts <[log in to unmask]> > To: [log in to unmask] > Sent: Wednesday, 1 August 2012, 0:52 > Subject: nutrient > > Rwy'n gweld bod rhai'n cynnig "maethyn, maethynnau" (e.e. > TermCymru) ac eraill yn cynnig "maetholyn, maetholion" (e.e. GyrA) > am "nutrient". Mae'r ddau air yn digwydd yn y Porth Termau. A oes > rheswm dros ffafrio'r naill neu'r llall? > > Diolch > > Siān > >