Dydio ddim yn swnio'n glir o gwbl i mi beth bynnag, ac o edrych yn Cysgeir am "ataliad" ceir "suspension, halt, inhibition, prevention, repression, restraint, sanction, stoppage, suppression" a "dterrent".
 
Pob posibilrwydd, a deud y gwir, heblaw "detention" !
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Catrin Beard
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, August 28, 2012 2:02 PM
Subject: Re: Detention

Mae'n dibynnu pa mor eang y defnyddir y gair mae'n debyg. Mae'n swnio'n reit glir i mi, ond gan fod y cyd-destun yn son am rym a chyffwrdd, efallai ei fod yn fwy amwys nag y byddai fel arall.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 28 August 2012 13:53
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Detention

 

Cytuno bod 'ataliad' yn rhy amwys i gyfleu'r ystyr. Efallai ei fod yn ddealladwy o fewn ffiniau un ysgol ond mae'n bosibl atal mewn sawl gwahanol ffordd, nid dim ond cadw rhywun yn yr ysgol. Petawn i'n darllen 'ataliad', byddwn i'n fwy tebygol o feddwl mai 'restraint' yw'r ystyr.

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 28 Awst 2012 13:49
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Detention

 

Nid yn chwithig, ond yn amwys.

 

Beth petawn i am gyfieithu Reasonable force, touch and prevention ?

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Catrin Beard

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, August 28, 2012 1:09 PM

Subject: Re: Detention

 

Efallai fod 'ataliad' yn swnio'n chwithig i bobl nad ydyn nhw'n ymwneud ag ysgolion o ddydd i ddydd, ond os mai dyna'r term sy'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd, dyna ddylid ei ddefnyddio does bosib?

 

Os gwgli di 'cosbi disgyblion ataliad' ceir nifer o enghreifftiau lle mae'r gair yn cael ei ddefnyddio'n naturiol gan ysgolion e.e. Ysgol Dyffryn Taf:

Pan fo angen gwneud hynny gellir cosbi disgyblion fel

a ganlyn:

• Ataliad yn ystod yr Egwyl neu Amser Cinio;

• Ataliad ar ôl ysgol (Hysbysir rhieni ymlaen llaw);

 

Ysgol Ystalyfera:

Gall y gosb gynnwys atal breintiau, cerydd, gwaith ychwanegol,

gwaharddiad o rai o weithgareddau’r ysgol, rhoi ar

Adroddiad Dyddiol, ataliad, ac mewn achosion difrifol iawn,

gwaharddiad o’r ysgol

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 28 August 2012 13:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Detention

 

Dyma bennawd sydd gen i -

 

Policies linked to behaviour management: Reasonable force, touch and detention

 

Mae'n reit amlwg i mi na fase 'ataliad' ddim yn gwneud y tro yn y cyd-destun yma - mi faswn i'n syth yn meddwl mai atal disgybl rhag gwneud rhywbeth drwy afael ynddo fyddai dan sylw.

 

Dwi wedi rhoi "grym rhesymol, cyffwrdd a chadw ar ôl" ar hyn o bryd...

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">martin davies

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, August 28, 2012 12:37 PM

Subject: Re: Detention

 

Defyddir 'ataliad' yn yr ardal hon (Llanelli)

> Date: Tue, 28 Aug 2012 12:04:48 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Detention
> To: [log in to unmask]
>
> Holwyd yn 2004 am derm am 'detention' sef cadw plentyn yn yr ysgol ar ôl amser mynd adre fel cosb.
>
> Ydi 'cadw ar ôl' yn iawn fel term neu oes yna rywbeth arall sy'n cael ei ddefnyddio yn ein hysgolion?

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12