Print

Print


Ac i ychwanegu at yr amwysedd, dwi'n meddwl bod yr 'ataliad' yn yr enghraifft o Ysgol Ystalyfera yn fanno'n cyfeirio at 'suspension', a gwaharddiad yn cyfeirio at 'exclusion'.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Catrin Beard
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, August 28, 2012 1:09 PM
Subject: Re: Detention

Efallai fod 'ataliad' yn swnio'n chwithig i bobl nad ydyn nhw'n ymwneud ag ysgolion o ddydd i ddydd, ond os mai dyna'r term sy'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd, dyna ddylid ei ddefnyddio does bosib?

 

Os gwgli di 'cosbi disgyblion ataliad' ceir nifer o enghreifftiau lle mae'r gair yn cael ei ddefnyddio'n naturiol gan ysgolion e.e. Ysgol Dyffryn Taf:

Pan fo angen gwneud hynny gellir cosbi disgyblion fel

a ganlyn:

• Ataliad yn ystod yr Egwyl neu Amser Cinio;

• Ataliad ar ôl ysgol (Hysbysir rhieni ymlaen llaw);

 

Ysgol Ystalyfera:

Gall y gosb gynnwys atal breintiau, cerydd, gwaith ychwanegol,

gwaharddiad o rai o weithgareddau’r ysgol, rhoi ar

Adroddiad Dyddiol, ataliad, ac mewn achosion difrifol iawn,

gwaharddiad o’r ysgol

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 28 August 2012 13:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Detention

 

Dyma bennawd sydd gen i -

 

Policies linked to behaviour management: Reasonable force, touch and detention

 

Mae'n reit amlwg i mi na fase 'ataliad' ddim yn gwneud y tro yn y cyd-destun yma - mi faswn i'n syth yn meddwl mai atal disgybl rhag gwneud rhywbeth drwy afael ynddo fyddai dan sylw.

 

Dwi wedi rhoi "grym rhesymol, cyffwrdd a chadw ar ôl" ar hyn o bryd...

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">martin davies

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, August 28, 2012 12:37 PM

Subject: Re: Detention

 

Defyddir 'ataliad' yn yr ardal hon (Llanelli)

> Date: Tue, 28 Aug 2012 12:04:48 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Detention
> To: [log in to unmask]
>
> Holwyd yn 2004 am derm am 'detention' sef cadw plentyn yn yr ysgol ar ôl amser mynd adre fel cosb.
>
> Ydi 'cadw ar ôl' yn iawn fel term neu oes yna rywbeth arall sy'n cael ei ddefnyddio yn ein hysgolion?

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12