Ac i ychwanegu at yr amwysedd, dwi'n meddwl bod yr 'ataliad' yn yr enghraifft o Ysgol Ystalyfera yn fanno'n cyfeirio at 'suspension', a gwaharddiad yn cyfeirio at 'exclusion'. ----- Original Message ----- From: Catrin Beard To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, August 28, 2012 1:09 PM Subject: Re: Detention Efallai fod 'ataliad' yn swnio'n chwithig i bobl nad ydyn nhw'n ymwneud ag ysgolion o ddydd i ddydd, ond os mai dyna'r term sy'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd, dyna ddylid ei ddefnyddio does bosib? Os gwgli di 'cosbi disgyblion ataliad' ceir nifer o enghreifftiau lle mae'r gair yn cael ei ddefnyddio'n naturiol gan ysgolion e.e. Ysgol Dyffryn Taf: Pan fo angen gwneud hynny gellir cosbi disgyblion fel a ganlyn: . Ataliad yn ystod yr Egwyl neu Amser Cinio; . Ataliad ar ôl ysgol (Hysbysir rhieni ymlaen llaw); Ysgol Ystalyfera: Gall y gosb gynnwys atal breintiau, cerydd, gwaith ychwanegol, gwaharddiad o rai o weithgareddau'r ysgol, rhoi ar Adroddiad Dyddiol, ataliad, ac mewn achosion difrifol iawn, gwaharddiad o'r ysgol From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 28 August 2012 13:01 To: [log in to unmask] Subject: Re: Detention Dyma bennawd sydd gen i - Policies linked to behaviour management: Reasonable force, touch and detention Mae'n reit amlwg i mi na fase 'ataliad' ddim yn gwneud y tro yn y cyd-destun yma - mi faswn i'n syth yn meddwl mai atal disgybl rhag gwneud rhywbeth drwy afael ynddo fyddai dan sylw. Dwi wedi rhoi "grym rhesymol, cyffwrdd a chadw ar ôl" ar hyn o bryd... ----- Original Message ----- From: martin davies To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, August 28, 2012 12:37 PM Subject: Re: Detention Defyddir 'ataliad' yn yr ardal hon (Llanelli) > Date: Tue, 28 Aug 2012 12:04:48 +0100 > From: [log in to unmask] > Subject: Re: Detention > To: [log in to unmask] > > Holwyd yn 2004 am derm am 'detention' sef cadw plentyn yn yr ysgol ar ôl amser mynd adre fel cosb. > > Ydi 'cadw ar ôl' yn iawn fel term neu oes yna rywbeth arall sy'n cael ei ddefnyddio yn ein hysgolion? No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12 No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12