Print

Print



Digon posib.
 
ond dwi'n meddwl mai 'eu hebost' fasen nhw'n ddeud, (h.y. rhoi'r acen ar y goben), nid 'eu he-bost' 
 
 ;-)
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">David Bullock
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, August 28, 2012 11:29 AM
Subject: Re: ein he-gylchlythyr

Diolch, bawb, am drafod y cwestiwn mor fanwl.

 

Petai modd cael grŵp o Gymry naturiol a dirodres, a phetai modd creu rhyw sgwrs a fyddai'n eu cael nhw i roi'r gair newydd 'e-bost' ar ôl yr hen air 'ei' neu 'eu', dwi'n credu mai treiglo wnelen nhw.

 

Dyna ddigwyddodd pan oedd 'economi' yn air newydd yn Gymraeg, beth bynnag...

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Vaughan-Thomas, Paul
Sent: 24 Awst 2012 10:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ein he-gylchlythyr

 

Cytuno â chi Matthew ar bob cyfrif!

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb [auc]
Sent: 24 August 2012 10:11
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: ein he-gylchlythyr

 

Nage: rwy'n credu bod gan bobl synhwyrol a gwybodus bethau gwell i'w gwneud nag ymhel â'n cylch ni, Paul!

 

Ac ateb cwestiwn y Dr. Bullock, rwy fi'n codi fy llaw. Ond, rwy'n cytuno - os bydd hi'n tynnu sylw'r gynulleidfa oddi ar y neges (ac yn dibynnu ar y cyd-destun ac ati), fe fyddwn i'n ceisio aralleirio. (Er, rhaid gweud, allai i ddim gweld dim o'i le ar 'ei hehangu') Rwy'n itha hapus ag "ei hebost" erbyn hyn. Mater o ddod i arfer â phethau - rwy'n defnyddio "ebyst" yn ffurf luosog ar 'ebost' ym mhob testun heblaw y rhai mwyaf ffurfiol erbyn hyn - fyddwn i ddim wedi meddwl gwneud ddeng mlynedd yn ôl.

 

Dw i ddim yn siŵr y byddai hi'n ddefnyddiol creu rhyw eithriad i'r rheol bod angen ychwanegu 'h-' ar ôl ei/eu/ein -. Dyna'r rheol. Os yw'r rheolau yn peri pen tost wrth geisio meistrioli'r iaith, mae eithriadau i'r rheolau yn gallu creu mwy byth o ddryswch. Ond, fel y dywedais, welaf i ddim byd o'i le o gwbl ar ail-lunio brawddeg fel y bydd hi'n trosglwyddo ei neges yn well, beth bynnag yw'r rheswm.

 

Wrs gwrth, i bopol gall o Forgannwg, shwd â fi a'r Dr Bullock, ni'n 'ollol 'apus 'eb ddechra gair acha "aits" byth bytho'dd.

 


wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Vaughan-Thomas, Paul
Anfonwyd/Sent: 24 Awst 2012 08:26
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ein he-gylchlythyr

Diolch i’m cydgyfieithwyr am weld fy mhwynt, mae’n codi’r galon bod callineb yn gallu ennill y dydd.

Falch o ddweud does dim silines ‘da fi chwaeth. Well ailddarllen fy negeseuon i weld mod i wedi dweud mae ‘na amser pan fo sail dros beidio â threiglo. Gall e-bostio fod yn enghraifft o hynny. Dyw ‘ei hehangu’ ddim, nid i fi ac yn amlwg nid i lawer eraill. Mae tuedd i rai ar y cylch neidio ar bobl ar unwaith am fod yn ddigon call a dewr i herio agweddau cwestiynadwy yn lle eistedd nôl a darllen yn iawn beth mae pobl yn ei ddweud. Mae’r duedd hon hefyd, yn ddi-os, yn gyfrifol am atal llawer o bobl synhwyrol, gwybodus rhag cyfrannu at drafodaethau.   

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Felicity Roberts [afr]
Sent: 23 August 2012 20:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ein he-gylchlythyr

 

Yn cytuno’n llwyr unwaith yn rhagor Paul.

 

Felicity 

        

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Vaughan-Thomas, Paul
Sent: 23 Awst 2012 15:13
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ein he-gylchlythyr

 

Yn ffodus, dwi'n ystyried fy hun yn berson call. Y rheswm pennaf am hynny yw oherwydd mai person call ydw i. Os caf ddweud unwaith eto, mae'n bosib cyfieithu mewn ffordd sy'n gywir a hefyd sy'n ddealladwy heb "ddymio lawr". Weithiau mae'n wir ei fod yn gwneud synnwyr osgoi rhywbeth os yw'n lletchwith iawn; ond weithiau, yn fy marn i, dymio lawr syml yw e e.e. osgoi 'ei hehangu'. Ac fel dywedais i eisoes, nid yw'r hyn sy'n edrych yn od i rai pobl bob amser yn edrych yn od i rai eraill, neu o leiaf nid yn ddigon od i'w osgoi. Dwi ddim yn dweud na ddylen ni byth osgoi pethau, wrth gwrs, ond dim ond os oes gwir angen gwneud hynny. Sori, fy marn i, ac mae gen i hawl iddi.

 

Paul

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 23 August 2012 14:54
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: ein he-gylchlythyr

 

Mae pawb call yn osgoi pethau anodd eu darllen ac anodd eu dweud - cytuno'n llwyr! Cyfathrebu yw'r job - ac er na fyddwn ni'n argymell ysgrifennu rhywbeth sy'n anghywir, byddwn yn sicr yn ceisio osgoi rhywbeth sy'n gelyniaethu darllenwyr. Nid 'dymio lawr' yw hyn yn fy marn i ond dewis cywair addas. Mae rhai treigladau a ffurfiau berfol am ryw reswm yn edrych yn od ar bapur ac yn tynnu sylw atyn nhw'u hunain yn hytrach na chyfleu ystyr. Wela'i ddim byd o'i le ar eu hosgoi.

 

Carolyn

 

-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Jones,Sylvia Prys

Anfonwyd/Sent: 23 Awst 2012 14:49

At/To: [log in to unmask]

Pwnc/Subject: Re: ein he-gylchlythyr

 

Cytuno'n llwyr, Siân.

 

Does neb yn medru dweud i sicrwydd beth sy'n hawdd i bobl ei ddeall, heb

wneud ymchwil fanwl ac eang, ac fel y dywedaist ti mae'n dibynnu ar y

cywair a'r cyd-destun - a'r gynulleidfa hefyd. Y cyfan mae'r cyfieithydd

druan yn gallu ei wneud yw dibynnu ar ei reddf a'i adnabyddiaeth o'i

gynulleidfa.

 

Fyddwn i byth yn ysgrifennu nac yn dweud brawddeg yn cynnwys y gair

'hehangu' oherwydd mae'n anodd ei ddweud, er yn gwbl gywir.

 

Sian Roberts wrote:

> Mae'n anodd - mae'r ddadl yn un ddiddiwedd.

> Yn fy marn i, mae angen bod yn gywir heb ddieithrio pobl - yn fwriadol nac yn ddifeddwl.

> Wrth sgrifennu pethau ar gyfer y cyhoedd rwy'n aml yn ceisio meddwl am deulu a ffrindiau - a phobl dw i'n nabod ar Facebook sy'n sgrifennu Cymraeg am y tro cyntaf er gadael yr ysgol ac nad ydyn nhw'n darllen papurau bro.

> Ond fel y soniais i, mae'n dibynnu ar y cyd-destun a'r cywair.

>

> Dwi'm yn siwr a fyse rhywun yn dweud "mae'r gegin wedi'i hehangu" chwaith!!

>

> Siân

>

> On 2012 Awst 23, at 2:01 PM, Felicity Roberts [afr] wrote:

>

>> Yn cytuno a'r safbwynt isod, ac yn ymfalchio yn y ffaith fod y reddf i roi'r anadliad caled  lle mae i fod, gen i, a gan eraill. Ni chredaf y dylem deimlo'n swil i gydnbod hyn, ac ofni bod siaradwyr Cymraeg cyhyrog mor brin fel bod yn rhaid i ni symleiddio.

>> 

>> Felicity

>> -----Original Message-----

>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Vaughan-Thomas, Paul

>> Sent: 23 August 2012 13:17

>> To: [log in to unmask]

>> Subject: Re: ein he-gylchlythyr

>> 

>> 

>> Rhaid cyfaddef dyw e ddim yn edrych yn rhyfedd i mi, a byddwn i'n dweud hynny hyd yn oed os taw person "go iawn" oeddwn i. Hyd yn oed fel dysgwr, byddwn i'n disgwyl y treiglo ac wedyn yn cael fy nrysu nad oedd yno. Rwy'n gwerthfawrogi bod rhai pobl yn ystyried bod y sillafiad i'w weld yn lletchwith ond c'est la vie. On'd yw'n eitha sarhaus i ystyried nad yw "pobl gyffredin" yn ddigon disglair i ddeall gair pob dydd fel "ehangu" jyst achos bod y gair wedi cael ei dreiglo'n llaes? I ba raddau ydyn ni'n "dymio lawr" yng Nghymru. Heb safonau uchel, mae pethau'n dirywio.

>> 

>> Paul

>> 

>> -----Original Message-----

>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts

>> Sent: 23 August 2012 13:03

>> To: [log in to unmask]

>> Subject: Re: ein he-gylchlythyr

>> 

>> Digwydd sôn am hyn gan ei fod wedi codi'n ddiweddar.  Wrth edrych nôl dros y gwaith, roedd y gair yn edrych yn rhyfedd i mi - ac os oedd yn edrych yn rhyfedd i mi, byddai'n siwr o edrych yn rhyfedd i bobl eraill.  Roedd y darn ar gyfer pobl "go iawn" - nid graddedigion mewn swyddfeydd.

>> "Osgoi" ddywedais i - trwy aralleirio - nid jest tynnu'r "h"!

>> Siwr bod gwell enghreifftiau

>> 

>> Siân

>> 

>> 

>> On 2012 Awst 23, at 12:56 PM, Vaughan-Thomas, Paul wrote:

>> 

>>> Sut mae 'ei hehangu' yn gwneud yr ystyr yn aneglur? Fel arall, byddai'n anghywir ar ôl ei 'her'. Rwy'n siŵr bod gwell enghreifftiau i'w defnyddio lle byddai'r ystyr yn aneglur oherwydd treiglo, ond nid un o'r rhain yw hon.

>>> 

>>> -----Original Message-----

>>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and

>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of

>>> Sian Roberts

>>> Sent: 23 August 2012 12:27

>>> To: [log in to unmask]

>>> Subject: Re: ein he-gylchlythyr

>>> 

>>> Ydi - mae cwmniau'n sôn am "our Mr Jones" - byddai'n swnio'n rhyfedd

>>> iawn yn Gymraeg

>>> 

>>> Fydda i'n ceisio osgoi rhoi "h" o flaen llafariad os yw hynny'n gwneud

>>> yr ystyr yn aneglur - dibynnu ar y cyd-destun a'r cywair, wrth gwrs.

>>> e.e. ei hehangu

>>> 

>>> Siân

>>> 

>>> 

>>> On 2012 Awst 23, at 12:14 PM, Jones,Sylvia Prys wrote:

>>> 

>>>> David Bullock wrote:

>>>>> Dwylo lan, pwy sy'n treiglo geiriau fel 'e-gylchlythyr' ar ôl 'ein' etc?

>>>> Bydda i'n sylwi wrth gyfieithu bod 'our' yn cael ei ddefnyddio'n aml yn Saesneg heb fod raid. e.e. our newsletter, our project, our research.... Fel rheol mae modd defnyddio'r fannod yn Gymraeg oherwydd mae'n hollol glir i bwy mae'r cylchlythyr, y project neu'r ymchwil yn perthyn. Neu mae'n bosib dweud ein neges ebost yn lle ein hebost, neu ein cylchlythyr electronig yn lle ein he-gylchlythyr.

>>>> 

>>>> Wedi dweud hynny, i ateb dy gwestiwn,  pe bai gwir angen defnyddio 'ein' mewn cyd-destun felly, a dim ffordd yn y byd i osgoi hynny, byddwn yn rhoi 'h' o flaen y llafariad dilynol.

>>>> --

>>>> Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>

>>>> 

>>>> Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit Canolfan Bedwyr

>>>> Prifysgol Bangor/Bangor University

>>>> --

>>>> Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565

>>>> 

>>>> Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,

>>>> gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig

>>>> gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y

>>>> neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar

>>>> unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,

>>>> rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a

>>>> gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i

>>>> hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn

>>>> Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges

>>>> e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn

>>>> ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun

>>>> yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol

>>>> - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid

>>>> Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk

>>>> 

>>>> This email and any attachments may contain confidential material and

>>>> is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have

>>>> received this email in error, please notify the sender immediately

>>>> and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you

>>>> must not use, retain or disclose any information contained in this

>>>> email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do

>>>> not necessarily represent those of Bangor University.

>>>> Bangor University does not guarantee that this email or any

>>>> attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless expressly

>>>> stated in the body of the text of the email, this email is not

>>>> intended to form a binding contract - a list of authorised

>>>> signatories is available from the Bangor University Finance Office. 

>>>> www.bangor.ac.uk

>>> ******************************************************************

>>> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:

 

 

>>> [log in to unmask]

>>> 

>>> All communications sent to or from the Council may be subject to

>>> recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

>>> 

>>> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:

>>> [log in to unmask]

>>> 

>>> Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun

>>> cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol

>>> *******************************************************************

>> ******************************************************************

>> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:

>> [log in to unmask]

>> 

>> All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

>> 

>> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:

 

 

>> [log in to unmask]

>> 

>> Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol

>> *******************************************************************

 

 

--

Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>

 

Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit

Canolfan Bedwyr

Prifysgol Bangor/Bangor University

--

Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565

 

Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,

gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig

gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y

neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar

unwaith a dilwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,

rhaid i chi beidio defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a

gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i

hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn

Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu

bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu

100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn

nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract

rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa

Cyllid Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk

 

This email and any attachments may contain confidential material and

is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have

received this email in error, please notify the sender immediately

and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you

must not use, retain or disclose any information contained in this

email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do

not necessarily represent those of Bangor University.

Bangor University does not guarantee that this email or

any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless

expressly stated in the body of the text of the email, this email is

not intended to form a binding contract - a list of authorised

signatories is available from the Bangor University Finance

Office.  www.bangor.ac.uk


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************


******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12