Ie - y ddwy "h" siwr o fod - h.y. fe wnaeth "ei hehangu" i mi stopio a meddwl "eh?" wrth ddarllen dros y gwaith - a fi oedd wedi'i ysgrifennu!
Y gamp wrth sgrifennu stwff ffeithiol yw peidio â chael dim sy'n torri ar draws llif y darllen, siwr o fod!

Diolch i bawb am y drafodaeth!

Cofion

Siân

On 2012 Awst 23, at 5:36 PM, Geraint Lovgreen wrote:

Fy hun, dwi ddim yn deall be di'r broblem efo ysgrifennu "ei hehangu". Fysa pawb yn sgwennu "ei hagor" (er enghraifft) felly be di'r broblem? Dim ond y ffaith fod yna ddwy 'h' yn agos at ei gilydd?
 
Ond dwi ddim yn gweld fy hun yn sgwennu "ei he-gylchlythyr" chwaith!  Mae "ei hebost" yn edrych yn od hefyd.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, August 23, 2012 5:06 PM
Subject: Re: ein he-gylchlythyr

Clywch clywch!

Anna

2012/8/23 Jones,Sylvia Prys <[log in to unmask]>
Cytuno'n llwyr, Siân.

Does neb yn medru dweud i sicrwydd beth sy'n hawdd i bobl ei ddeall, heb wneud ymchwil fanwl ac eang, ac fel y dywedaist ti mae'n dibynnu ar y cywair a'r cyd-destun - a'r gynulleidfa hefyd. Y cyfan mae'r cyfieithydd druan yn gallu ei wneud yw dibynnu ar ei reddf a'i adnabyddiaeth o'i gynulleidfa.

Fyddwn i byth yn ysgrifennu nac yn dweud brawddeg yn cynnwys y gair 'hehangu' oherwydd mae'n anodd ei ddweud, er yn gwbl gywir.


Sian Roberts wrote:
Mae'n anodd - mae'r ddadl yn un ddiddiwedd.
Yn fy marn i, mae angen bod yn gywir heb ddieithrio pobl - yn fwriadol nac yn ddifeddwl.
Wrth sgrifennu pethau ar gyfer y cyhoedd rwy'n aml yn ceisio meddwl am deulu a ffrindiau - a phobl dw i'n nabod ar Facebook sy'n sgrifennu Cymraeg am y tro cyntaf er gadael yr ysgol ac nad ydyn nhw'n darllen papurau bro.
Ond fel y soniais i, mae'n dibynnu ar y cyd-destun a'r cywair.

Dwi'm yn siwr a fyse rhywun yn dweud "mae'r gegin wedi'i hehangu" chwaith!!

Siân

On 2012 Awst 23, at 2:01 PM, Felicity Roberts [afr] wrote:

Yn cytuno a'r safbwynt isod, ac yn ymfalchio yn y ffaith fod y reddf i roi'r anadliad caled  lle mae i fod, gen i, a gan eraill. Ni chredaf y dylem deimlo'n swil i gydnbod hyn, ac ofni bod siaradwyr Cymraeg cyhyrog mor brin fel bod yn rhaid i ni symleiddio.

Felicity
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of Vaughan-Thomas, Paul
Sent: 23 August 2012 13:17
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: ein he-gylchlythyr


Rhaid cyfaddef dyw e ddim yn edrych yn rhyfedd i mi, a byddwn i'n dweud hynny hyd yn oed os taw person "go iawn" oeddwn i. Hyd yn oed fel dysgwr, byddwn i'n disgwyl y treiglo ac wedyn yn cael fy nrysu nad oedd yno. Rwy'n gwerthfawrogi bod rhai pobl yn ystyried bod y sillafiad i'w weld yn lletchwith ond c'est la vie. On'd yw'n eitha sarhaus i ystyried nad yw "pobl gyffredin" yn ddigon disglair i ddeall gair pob dydd fel "ehangu" jyst achos bod y gair wedi cael ei dreiglo'n llaes? I ba raddau ydyn ni'n "dymio lawr" yng Nghymru. Heb safonau uchel, mae pethau'n dirywio. 
Paul 
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 23 August 2012 13:03
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: ein he-gylchlythyr

Digwydd sôn am hyn gan ei fod wedi codi'n ddiweddar.  Wrth edrych nôl dros y gwaith, roedd y gair yn edrych yn rhyfedd i mi - ac os oedd yn edrych yn rhyfedd i mi, byddai'n siwr o edrych yn rhyfedd i bobl eraill.  Roedd y darn ar gyfer pobl "go iawn" - nid graddedigion mewn swyddfeydd.
"Osgoi" ddywedais i - trwy aralleirio - nid jest tynnu'r "h"!
Siwr bod gwell enghreifftiau

Siân


On 2012 Awst 23, at 12:56 PM, Vaughan-Thomas, Paul wrote:

Sut mae 'ei hehangu' yn gwneud yr ystyr yn aneglur? Fel arall, byddai'n anghywir ar ôl ei 'her'. Rwy'n siŵr bod gwell enghreifftiau i'w defnyddio lle byddai'r ystyr yn aneglur oherwydd treiglo, ond nid un o'r rhain yw hon.

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 23 August 2012 12:27
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: ein he-gylchlythyr

Ydi - mae cwmniau'n sôn am "our Mr Jones" - byddai'n swnio'n rhyfedd iawn yn Gymraeg

Fydda i'n ceisio osgoi rhoi "h" o flaen llafariad os yw hynny'n gwneud yr ystyr yn aneglur - dibynnu ar y cyd-destun a'r cywair, wrth gwrs. e.e. ei hehangu

Siân


On 2012 Awst 23, at 12:14 PM, Jones,Sylvia Prys wrote:

David Bullock wrote:
Dwylo lan, pwy sy'n treiglo geiriau fel 'e-gylchlythyr' ar ôl 'ein' etc?
Bydda i'n sylwi wrth gyfieithu bod 'our' yn cael ei ddefnyddio'n aml yn Saesneg heb fod raid. e.e. our newsletter, our project, our research.... Fel rheol mae modd defnyddio'r fannod yn Gymraeg oherwydd mae'n hollol glir i bwy mae'r cylchlythyr, y project neu'r ymchwil yn perthyn. Neu mae'n bosib dweud ein neges ebost yn lle ein hebost, neu ein cylchlythyr electronig yn lle ein he-gylchlythyr.

Wedi dweud hynny, i ateb dy gwestiwn,  pe bai gwir angen defnyddio 'ein' mewn cyd-destun felly, a dim ffordd yn y byd i osgoi hynny, byddwn yn rhoi 'h' o flaen y llafariad dilynol.
-- 
Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>

Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor/Bangor University
--
Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565

Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office.  www.bangor.ac.uk
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************
******************************************************************
This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address:
[log in to unmask]

All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
[log in to unmask]

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
*******************************************************************


-- 
Dr Sylvia Prys Jones    01248 382036  <[log in to unmask]>

Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Bangor/Bangor University
-- 
Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565

Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i
hanfonodd yn unig  ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol Bangor.  www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and
is solely for the use of the intended recipient(s).  If you have
received this email in error, please notify the sender immediately
and delete this email.  If you are not the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any information contained in this
email.  Any views or opinions are solely those of the sender and do
not necessarily represent those of Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email or
any attachments are free from viruses or 100% secure.  Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this email is
not intended to form a binding contract - a list of authorised
signatories is available from the Bangor University Finance
Office.  www.bangor.ac.uk

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5218 - Release Date: 08/22/12