Angen bod yn garcus wrth sôn am 'bartner' mewn mannau yn y de. Mae 'partner' yn gallu golygu 'byti' - ffrindiau mawr. Ffrindiau pennaf. Ond dim ond ffrindiau!


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 21 Awst 2012 15:17
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: partner

Diolch, Anna

Dwi'n gwybod i mi sôn yn wreiddiol am y posibilrwydd o hepgor y frawddeg.  Erbyn hyn, dw i ddim yn meddwl bod hynny'n ddoeth, am ddau reswm:

1)   Gallai'r gweithwyr ieuenctid ddarllen y fersiwn Gymraeg o'r Canllawiau ond cynnal y sesiynau yn Saesneg neu'n ddwyieithog. Felly, mae angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o'r cyngor ar gyfer gweithio'n Saesneg.
2)  Os yw "girlfriend" a "boyfriend" yn dal i gael eu defnyddio wrth siarad Cymraeg yn y de orllewin, mae'r cyngor yn berthnasol i'r sesiynau Cymraeg hefyd.

Os dwi'n cofio'n iawn, roedd "cariad" a "paned" ymhlith y geiriau "gogleddol" cynta wnaethon ni eu mabwysiadu ar ôl cyrraedd y coleg.

On'd ydi'n gwaith ni'n ddifyr?!

Siân


On 2012 Awst 21, at 3:04 PM, anna gruffydd wrote:

Gan ddod yn ol at y neges gynta, gan fod cariad yn fenywaidd neu'n wrywaidd, dydi'r broblem ddim i'w gael yn Gymraeg, nacydi, felly ella gellid hepgor y frawddeg yn gyfan gwbl fel yr awgrymwyd.

Anna

2012/8/21 [log in to unmask] <[log in to unmask]>
Ac yn y gan werin, ?"Cariad Cyntaf" - Mi'th gymeraf yn gymhares,/Seren syw,
clyw di'r claf.
Ann

Original Message:
-----------------
From: Mary Jones [log in to unmask]
Date: Tue, 21 Aug 2012 14:29:23 +0100
To: [log in to unmask]
Subject: Re: partner


On’d yw hi’n rhyfedd sut y bydd rhai geiriau’n magu cyd-destun penodol mewn
rhai mannau. Yr unig bryd fydda i’n defnyddio’r ffurf fenywaidd ‘cymhares’
yw wrth sôn am ail esgid neu faneg neu hosan, e.e. fel “ble mae cymhares y
faneg?”. Byth wrth sôn am berson!

Mary



From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 21 August 2012 14:06
To: [log in to unmask]
Subject: Re: partner



dwi'n cofio Dafydd Glyn mewn cynhadledd cyfieithwyr yn deud na ddylid gwneud
gormod o ffys am fersiyna gwrywaidd/benywaidd - athro/athrawes ayyb. Felly
oni allai cymar fod yn wrywaidd neu'n fenywaidd?

Anna

2012/8/21 [log in to unmask] <[log in to unmask]>

Soniais i wrth Bruce amser maith yn ol, sut y byddwn i'n rhoi X a'i chymar/
Y a'i gymar ar wahoddiadau Cinio Cadeirydd Ceredigion, ac fe'm hatgoffodd
fod gan "cymar" fersiwn benywaidd, "cymhares". O diar!

Ond mae'n biti bod y gair yn mynd i ebargofiant - bydd Bruce bob amser yn
dweud mai partner mewn busnes neu wrth chwarae cardiau dylai "partner" fod,
a byddai hynny'n osgoi camddealltwriaeth weithiau.  'Rwy'n amau bod geiriau
fel "partner" a "person" wedi ymledu am ei bod nhw mor hawdd i'w defnyddio
efo dysgwyr.

Ann

Original Message:
-----------------
From: Sian Roberts [log in to unmask]
Date: Tue, 21 Aug 2012 13:04:25 +0100
To: [log in to unmask]

Subject: Re: partner


Diolch.  Ie, ond falle y byddai'n rhaid dweud "Defnyddiwch y geiriau
"cymar", "partner" neu "cariad" yn lle "wejen/sboner/fodan"" gan fod
"partner" a "cariad" dipyn yn fwy cyffredin ar lawr gwlad.  Dw i ddim yn
gwybod a fyddai "cymar" yn taro deuddeg mewn gwaith addysg rhyw "ar y
stryd".

Newydd gofio bod "girlfriend/boyfriend" yn cael eu defnyddio yn gyffredin
ym Mhencader pan o'n i'n fach.  "Wejen/sboner" yn cael eu cyfrif damed bach
yn hen ffasiwn / coman efallai.  Maen nhw'n swnio'n chwithig iawn i mi
erbyn hyn.

Diolch

Siân



On 2012 Awst 21, at 9:53 AM, Felicity Roberts [afr] wrote:

> Beth am 'cymar'?
>
> Felicity
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 21 August 2012 08:33
> To: [log in to unmask]
> Subject: partner
>
> Darn am addysg rhyw yn y gymuned i'w ddefnyddio ledled Cymru. Sôn am fod
yn gynhwysol:
>
> "Use the word partner instead of girl or boyfriend."
>
> Ydw i'n dweud "Defnyddiwch y geiriau "partner" neu "cariad" yn lle
"wejen/sboner/fodan" (oes gair gogleddol am sboner?) - 'ta ydw i'n hepgor y
frawddeg?
>
> Diolch
>
> Siân



--------------------------------------------------------------------
mail2web.com - Microsoft® Exchange solutions from a leading provider -
http://link.mail2web.com/Business/Exchange





--------------------------------------------------------------------
mail2web.com – What can On Demand Business Solutions do for you?
http://link.mail2web.com/Business/SharePoint