Print

Print


Dwi'n meddwl bod "front bottom" yn cyfateb i "tintws wiwi".
  ----- Original Message ----- 
  From: anna gruffydd 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Thursday, August 02, 2012 4:36 PM
  Subject: Re: "willy" "minnie / "foof"


  Cytuno!!! Lot difyrrach nag involved ac engaged, a dwi di dysgu andros o lot. Yn f'atgoffa fi hefyd o'r ymadrodd 'front bottom' sy wedi nhiclo i erioed.

  Anna


  2012/8/2 Symons, David <[log in to unmask]>


    Sdim byd ‘da fi i gyfrannu, jest i ddweud mai dyma un o’r sgyrsiau gorau dw i erioed wedi’u gweld ar y cylch!!



    David Symons

    Cyfieithydd / Translator



    Cronfa Loteri Fawr / Big Lottery Fund 

    Tŷ Ladywell / Ladywell House

    Y Drenewydd / Newtown

    Powys SY16 1JB



    Ffôn / Telephone: 01686 611729

    Mewnol / Internal: 8729

    [log in to unmask]



    Llinell Gynghori Fawr | BIG Advice Line : 0300 123 0735



    www.biglotteryfund.org.uk/wales

    www.cronfaloterifawr.org.uk

    www.twitter.com/BigLotteryWales



     -




    From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
    Sent: 02 August 2012 16:18


    To: [log in to unmask]
    Subject: Re: "willy" "minnie / "foof"



    haha! ie, mae o'n gwestiwn digon teg!

      ----- Original Message ----- 

      From: Sian Roberts 

      To: [log in to unmask] 

      Sent: Thursday, August 02, 2012 4:04 PM

      Subject: Re: "willy" "minnie / "foof"



      Dim mor od!  Dwi'n cofio un o'r bechgyn yma yn cyfarch merch tua 12 oed â "Be di d'enw di? Sgin ti bidlen?" 

      (Dwy a 5 mis oedd e ar y pryd, gyda llaw)



      Siân



      On 2 Awst 2012, at 15:45, Ann Corkett wrote:





      Cwestiwn od beth bynnag.

      Ann


--------------------------------------------------------------------------

      From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Jones
      Sent: 02 August 2012 15:03
      To: [log in to unmask]
      Subject: Re: "willy" "minnie / "foof"

      Wela i. Dw i’n meddwl baswn inne’n rhoi to bach felly. Ma pobol yn rhoi geiriau yng nghegau plant bach yn rhy ifanc yntydyn - mae’r oes di newid! 

      Rhian 

      From: Sian Roberts

      Sent: Thursday, August 02, 2012 2:48 PM

      To: [log in to unmask]

      Subject: Re: "willy" "minnie / "foof"

      Mae'r cwsmer yn dymuno defnyddio "foof" /( "ffŵff" / "ffwff"?).

      Roeddwn i wedi dweud "Oes gan y ddynes yna ffani?" (neu fersiwn ddeheuol) ond fe wnaethon nhw ei newid i "Oes gan y ddynes yna foof?"  Dw i wedi esbonio nad yw'r gair yn gyfarwydd i lawer o bobl ac y byddai angen Cymreigio'r sillafiad beth bynnag.  Maen nhw wedi cytuno i gynnwys gair arall hefyd - Rhywbeth fel "Oes gan y ddynes yna ffŵff/ffani?" 

      Oes 'na air mwy derbyniol na "ffani" sy'n mynd i fod yn ddealladwy i bawb?

      Does dim byd addas yn GyrA, gwaetha'r modd - cojen, pethma, fflabatsh, siolen, bechingalw, siobet.  Meddwl mod i wedi gweld "siop fach" yn rhywle hefyd.

      Diolch

      Siân

      On 2 Awst 2012, at 14:32, Rhian Jones wrote:






      Ond os ydi’r rhieni cyffredin rywbeth yn debyg i ni fydden nhw ddim yn gwybod be di ystyr y gair heb sôn am sut i’w sillafu o. Tase un o mhlant i wedi gofyn i mi ‘Oes gan y ddynes yna ffwff’ faswn i wedi gorfod gofyn be di hwnnw .. Falle mai wedyn baswn i’n cochi!

      Rhian

      From: Sian Roberts

      Sent: Thursday, August 02, 2012 2:26 PM

      To: [log in to unmask]

      Subject: Re: "willy" "minnie / "foof"

      Wel, ydi'r "w" yn hir, 'ta'n fyr?  Odli â "cwch" 'ta "fflwff"?

      Dwi'n meddwl bod angen acen os yw'r "w" yn hir achos fe allai'r un mor hawdd fod yn fyr ac mae angen gwahaniaethu!!

      Diolch

      Siân

      On 2 Awst 2012, at 14:21, Muiris Mag Ualghairg wrote:






      Dw i ddim yn gwybod, tan heddiw doeddwn i ddim wedi gweld y gair wedi'i ysgrifennu! Ond, a oes angen to bach ar w oni bai ei fod yno i wahaniaethu rhwng gair arall sydd a'r un sillafiad? Os felly, ni fyddai angen to bach.

      Muiris

      2012/8/2 Sian Roberts <[log in to unmask]>

      Diolch i bawb am eu help.

      Un cwestiwn, Muiris - A oes to ar yr "w" yn "ffwff"?

      Ac a oes gair arall fyddai'n fwy cyfarwydd i bobl?  Ffani?

      Defnyddiau i rieni sy gen i:

      Have a phrase ready for inappropriate moments. Children ask questions at inappropriate moments – such as in the supermarket queue.

      If your child asked: “Does that lady have a foof?”

      You could respond saying: “That’s a good question; let’s talk about it when we get home.” And make sure you do.

      Diolch

      Siân

      On 2 Awst 2012, at 10:56, Muiris Mag Ualghairg wrote:






      Felly, nid yr un peth a 'Ffwff' merched!

      M

      2012/8/2 Sioned Graham-Cameron <[log in to unmask]>

      tin neu ben ôl ydi 'tintws' i minna hefyd

      Sioned

      On 2 Aug 2012, at 10:53, Rhian Jones wrote:






      Mae tintws yn fwy cyffredinol yntydi - os nad ydw i wedi camddallt! – o’n i’n meddwl bod gan bawb dintws! A does na ddim byd ‘personol’ iawn ynddo fo, fwy na jyst ‘tin’.     

      Rhian

      From: Geraint Lovgreen

      Sent: Thursday, August 02, 2012 10:40 AM

      To: [log in to unmask]

      Subject: Re: "willy" "minnie / "foof"

      O!!! nid gair am bidlen ydi minnie a foof felly?

      tintws ie?

        ----- Original Message -----

        From: Muiris Mag Ualghairg

        To: [log in to unmask]

        Sent: Thursday, August 02, 2012 10:34 AM

        Subject: Re: "willy" "minnie / "foof"

        Ie, ffwff, neu ffwffw mae'r merched yn nosbarth fy mab yn ei ddweud - roedd yn newydd imi pan glywais i'r gair gyntaf. 

        Pidlen mae Eoin yn ei ddweud am ei ran breifat ef a dw i ddim yn gwybod beth mae'r bechgyn eraill yn ei ddweud.






        2012/8/2 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

        "foof" ???!!


        ----- Original Message ----- From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
        To: <[log in to unmask]>
        Sent: Thursday, August 02, 2012 9:50 AM
        Subject: "willy" "minnie / "foof"




        Pa eiriau mae rhieni'n eu defnyddio gyda phlant bach y dyddiau 'ma - "wili"/ "pidlen"?

        Ydi "foof" - "ffŵff" (?) yn gyffredin?

        Diolch

        Siân





    This e-mail has been scanned for all viruses by Websense. For more information on a proactive anti-virus service working around the clock, around the globe, visit: http://www.websense.com

    Click here to report this email as spam.







    This email is confidential and intended solely for the use of the individual to whom it is addressed. 

    The contents of this message will not be in any way binding upon the Big Lottery Fund. Opinions, 

    conclusions, contractual obligations and other information in this message, in so far as they relate to the official business of the Big Lottery Fund, 

    must be specifically confirmed in writing by the Big Lottery Fund. 

    If you are not the intended recipient, be advised that you have received this email in error and that any use, dissemination, forwarding, printing, 

    or copying of this email is strictly prohibited. Additionally, 

    the information contained in this email may be subject to public disclosure under the Freedom of Information Act 2000.