Ia, on i'n meddwl am y lle na yn Sir Fon hefyd - ond ella'u bod nhw di defnyddio'r gair am ei fod yn haws ne'n fwy bachog. Chlywais i rioed pili pala lle ces i'm magu (Ym Mhen Llyn) - gloyn byw faswn i di'i ddeud, er mod i wedi clwad son am iar fach yr haf, mewn cerddi am wn i, ond rioed pili pala.

Anna

2012/8/1 Meinir Thomas <[log in to unmask]>
Nes i gymryd mai gair y gogledd oedd 'pili pala' (ond falle mod i'n meddwl hynny oherwydd Pili Palas yn Sir Fôn?). Rwy'n dod o Gaerfyrddin ac wedi fy magu i ddweud 'iâr fach yr haf'.

Cofion,

Meinir