O ddyfynu dogfen, dylid nodi'n gywir beth sydd ynddi, beth bynnag fod barn rhywun am gywirdeb neu addasrwydd y testun. T -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 29 August 2012 10:08 To: [log in to unmask] Subject: Re: anghysondeb Diolch, Tim Dyna gadarnhau beth roeddwn i'n meddwl ei wneud. Pwynt arall! Mae'r ddogfen dan sylw yn dyfynnu amryw o ddogfennau eraill, heb gynnwys y dyfyniadau mewn dyfynodau e.e. According to the Procedures, practitioners should: a) lgkm emfnfg merofn ... b) ontp dnmbn mendgon ... c) ,e0gnddd ddeognt ... Weithiau, dydi'r fersiwn Gymraeg yn y ddogfen a gyhoeddwyd ddim yn ymddangos yn hollol gywir i mi. A oes gen i hawl i'w newid - yn enwedig gan nad oes dyfynodau? Un enghraifft rwy newydd sylwi arni - mae'n sôn am blant yn datblygu'n "empowered individuals" ac mae'r Gymraeg swyddogol yn dweud "unigolion grymus" - nad yw'n cyfleu'r un syniad yn union. Diolch eto Siân On 2012 Awst 29, at 9:18 AM, Saunders, Tim wrote: > Teitl y ddogfen yw teitl y ddogfen, sef 'Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan' - sydd, os gwir y cof, yn cynnwys nifer o weithdrefnau i'w dilyn mewn amgylchiadau penodol. Fe allai fod yn werth nodi fod rhai pobl yn ailgyieithu'r teitl Saesneg, yn hytrach na dilyn beth sydd ar yr wynebddalen. > > Ynglŷn a'r 'relationships', unwaith eto fe saif teitl y ddogfen dan sylw fel ag y mae. Er hyn os nad yw rhywun yn dyfynnu, doeth o beth fyddai cyfeirio at yr amrywiaeth o dermau sy'n cael eu harfer - yn yr un ddogfen, ar adegau! > > Yn iach, > > > Tim > > > Tim Saunders > Cyfieithydd Translator > Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County > Borough Council > > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of > Sian Roberts > Sent: 29 August 2012 09:11 > To: [log in to unmask] > Subject: anghysondeb > > All Wales Child Protection Procedures 2008 > > Gan amlaf, cyfeirir at y rhain fel Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan - mae Google yn dod o hyd i 2140 o enghreifftiau o'r union derm. > > Ond y teitl ar y ddogfen ei hunan yw Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan. > > Beth sydd orau i'w wneud wrth gyfeirio at y ddogfen? A ddylid cydnabod bod y ddau enw'n cael eu defnyddio? > > > Hefyd, ar fater tebyg, mae TermCymru'n rhoi "addysg rhyw a > chydberthynas" (Statws 1) am "sex and relationships education" ond mae > llawer o ddogfennau yn defnyddio "addysg rhyw a pherthnasoedd" e.e. > Canllawiau diweddaraf Llywodraeth y Cynulliad - "Addysg Rhyw a > Pherthnasoedd mewn Ysgolion" (2010) > http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/100908sexedcy.pdf > > Rwy'n meddwl y cadwaf i at "perthnasoedd" yn y cyfieithiad am fod yr holl ddyfyniadau etc yn defnyddio "perthnasoedd" yn hytrach na "cydberthynas". > > > Diolch > > Siân