Mae'r gair 'ataliad' wedi cael ei ddefnyddio yn ardal Llanelli ers blynyddoedd - nid yw'n ychwanegiad diweddar.


Date: Tue, 28 Aug 2012 14:36:44 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Detention
To: [log in to unmask]

Diolch yn fawr am yr ymatebion.
 
Dwi wedi penderfynu mai osgoi amwysedd ydi'r peth pwysicaf ac felly wedi defnyddio "cadw i mewn" / "cadw i mewn ar ôl ysgol" / "cadw ar ôl" drwy'r ddogfen.
 
Dwi wedi defnyddio "atal" am "restraint" yn yr un ddogfen fel mae'n digwydd.
 
Mae'r ffaith fod un ysgol yng Nghaerdydd (ac un yn Llanelli?) wedi dechrau defnyddio "ataliad" am "detention" yn anffodus yn fy marn i. Ond o'n i'n eitha hoffi "cyfnod cosb" hefyd.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Ann Corkett
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, August 28, 2012 2:26 PM
Subject: Re: Detention

 

 

Yn gyffredinol, byddai modd “addysgu” pobl ynghylch y term cywir, trwy roi “detention” neu “cadw’n ol” ar ei ol mewn cromfachau; yn yr achos hwn, lle nad ydym yn sicr pa mor gyffredinol yw’r defnydd, heb son am y posibilrwydd o’i ddrysu a^ “suspension”, mae mwy fyth o angen eglurhad a diffinio’r term mewn cromfachau.

 

Wrth Wglo “ataliad” + “suspension”, gwelaf i Osian Rhys ateb ymholiad gen innau (ynghylch cyfieithu i’r Saesneg) ar 3 Tachwedd 2009, fel hyn:

Wn i ddim faint o help fydd hyn chwaith Ann, achos dw i ddim yn siŵr o ystyr y termau sydd gyda chi (yn enwedig exclude/eithrio)...

Ond yn ein hysgol ni yn y de-ddwyrain, y camau i blant drwg, os cofia i'n iawn, oedd:

1. Cosb  (bod i mewn amser cinio) -- enw'r disgyblion am hyn oedd "detention".

2. Gwahardd (diwrnod neu chydig ddyddie adre o'r ysgol) -- "suspendo".

3. Diarddel (gadael yr ysgol am byth) -- "expelo".

Gan fod rhywun wedi crybwyll “atal”, mae fy mrawd a fy chwaer mewn ysgol arall ac maen nhw’n sôn yn aml am gael ‘ataliad’, sy’n golygu gorfod aros i mewn amser cinio, dw i’n meddwl.

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Beard
Sent: 28 August 2012 14:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Detention

 

Mae'n dibynnu pa mor eang y defnyddir y gair mae'n debyg. Mae'n swnio'n reit glir i mi, ond gan fod y cyd-destun yn son am rym a chyffwrdd, efallai ei fod yn fwy amwys nag y byddai fel arall.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 28 August 2012 13:53
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Detention

 

Cytuno bod 'ataliad' yn rhy amwys i gyfleu'r ystyr. Efallai ei fod yn ddealladwy o fewn ffiniau un ysgol ond mae'n bosibl atal mewn sawl gwahanol ffordd, nid dim ond cadw rhywun yn yr ysgol. Petawn i'n darllen 'ataliad', byddwn i'n fwy tebygol o feddwl mai 'restraint' yw'r ystyr.

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 28 Awst 2012 13:49
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Detention

 

Nid yn chwithig, ond yn amwys.

 

Beth petawn i am gyfieithu Reasonable force, touch and prevention ?

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Catrin Beard

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, August 28, 2012 1:09 PM

Subject: Re: Detention

 

Efallai fod 'ataliad' yn swnio'n chwithig i bobl nad ydyn nhw'n ymwneud ag ysgolion o ddydd i ddydd, ond os mai dyna'r term sy'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd, dyna ddylid ei ddefnyddio does bosib?

 

Os gwgli di 'cosbi disgyblion ataliad' ceir nifer o enghreifftiau lle mae'r gair yn cael ei ddefnyddio'n naturiol gan ysgolion e.e. Ysgol Dyffryn Taf:

Pan fo angen gwneud hynny gellir cosbi disgyblion fel

a ganlyn:

• Ataliad yn ystod yr Egwyl neu Amser Cinio;

• Ataliad ar ôl ysgol (Hysbysir rhieni ymlaen llaw);

 

Ysgol Ystalyfera:

Gall y gosb gynnwys atal breintiau, cerydd, gwaith ychwanegol,

gwaharddiad o rai o weithgareddau’r ysgol, rhoi ar

Adroddiad Dyddiol, ataliad, ac mewn achosion difrifol iawn,

gwaharddiad o’r ysgol

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 28 August 2012 13:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Detention

 

Dyma bennawd sydd gen i -

 

Policies linked to behaviour management: Reasonable force, touch and detention

 

Mae'n reit amlwg i mi na fase 'ataliad' ddim yn gwneud y tro yn y cyd-destun yma - mi faswn i'n syth yn meddwl mai atal disgybl rhag gwneud rhywbeth drwy afael ynddo fyddai dan sylw.

 

Dwi wedi rhoi "grym rhesymol, cyffwrdd a chadw ar ôl" ar hyn o bryd...

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">martin davies

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, August 28, 2012 12:37 PM

Subject: Re: Detention

 

Defyddir 'ataliad' yn yr ardal hon (Llanelli)

> Date: Tue, 28 Aug 2012 12:04:48 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Detention
> To: [log in to unmask]
>
> Holwyd yn 2004 am derm am 'detention' sef cadw plentyn yn yr ysgol ar ôl amser mynd adre fel cosb.
>
> Ydi 'cadw ar ôl' yn iawn fel term neu oes yna rywbeth arall sy'n cael ei ddefnyddio yn ein hysgolion?

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12