----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Ann CorkettTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Tuesday, August 28, 2012 2:26 PMSubject: Re: Detention
Yn gyffredinol, byddai modd “addysgu” pobl ynghylch y term cywir, trwy roi “detention” neu “cadw’n ol” ar ei ol mewn cromfachau; yn yr achos hwn, lle nad ydym yn sicr pa mor gyffredinol yw’r defnydd, heb son am y posibilrwydd o’i ddrysu a^ “suspension”, mae mwy fyth o angen eglurhad a diffinio’r term mewn cromfachau.
Wrth Wglo “ataliad” + “suspension”, gwelaf i Osian Rhys ateb ymholiad gen innau (ynghylch cyfieithu i’r Saesneg) ar 3 Tachwedd 2009, fel hyn:
Wn i ddim faint o help fydd hyn chwaith Ann, achos dw i ddim yn siŵr o ystyr y termau sydd gyda chi (yn enwedig exclude/eithrio)...
Ond yn ein hysgol ni yn y de-ddwyrain, y camau i blant drwg, os cofia i'n iawn, oedd:
1. Cosb (bod i mewn amser cinio) -- enw'r disgyblion am hyn oedd "detention".
2. Gwahardd (diwrnod neu chydig ddyddie adre o'r ysgol) -- "suspendo".
3. Diarddel (gadael yr ysgol am byth) -- "expelo".
Gan fod rhywun wedi crybwyll “atal”, mae fy mrawd a fy chwaer mewn ysgol arall ac maen nhw’n sôn yn aml am gael ‘ataliad’, sy’n golygu gorfod aros i mewn amser cinio, dw i’n meddwl.
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Catrin Beard
Sent: 28 August 2012 14:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Detention
Mae'n dibynnu pa mor eang y defnyddir y gair mae'n debyg. Mae'n swnio'n reit glir i mi, ond gan fod y cyd-destun yn son am rym a chyffwrdd, efallai ei fod yn fwy amwys nag y byddai fel arall.
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 28 August 2012 13:53
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Detention
Cytuno bod 'ataliad' yn rhy amwys i gyfleu'r ystyr. Efallai ei fod yn ddealladwy o fewn ffiniau un ysgol ond mae'n bosibl atal mewn sawl gwahanol ffordd, nid dim ond cadw rhywun yn yr ysgol. Petawn i'n darllen 'ataliad', byddwn i'n fwy tebygol o feddwl mai 'restraint' yw'r ystyr.
Carolyn
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 28 Awst 2012 13:49
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Detention
Nid yn chwithig, ond yn amwys.
Beth petawn i am gyfieithu Reasonable force, touch and prevention ?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">Catrin Beard
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, August 28, 2012 1:09 PM
Subject: Re: Detention
Efallai fod 'ataliad' yn swnio'n chwithig i bobl nad ydyn nhw'n ymwneud ag ysgolion o ddydd i ddydd, ond os mai dyna'r term sy'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd, dyna ddylid ei ddefnyddio does bosib?
Os gwgli di 'cosbi disgyblion ataliad' ceir nifer o enghreifftiau lle mae'r gair yn cael ei ddefnyddio'n naturiol gan ysgolion e.e. Ysgol Dyffryn Taf:
Pan fo angen gwneud hynny gellir cosbi disgyblion fel
a ganlyn:
• Ataliad yn ystod yr Egwyl neu Amser Cinio;
• Ataliad ar ôl ysgol (Hysbysir rhieni ymlaen llaw);
Ysgol Ystalyfera:
Gall y gosb gynnwys atal breintiau, cerydd, gwaith ychwanegol,
gwaharddiad o rai o weithgareddau’r ysgol, rhoi ar
Adroddiad Dyddiol, ataliad, ac mewn achosion difrifol iawn,
gwaharddiad o’r ysgol
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 28 August 2012 13:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Detention
Dyma bennawd sydd gen i -
Policies linked to behaviour management: Reasonable force, touch and detention
Mae'n reit amlwg i mi na fase 'ataliad' ddim yn gwneud y tro yn y cyd-destun yma - mi faswn i'n syth yn meddwl mai atal disgybl rhag gwneud rhywbeth drwy afael ynddo fyddai dan sylw.
Dwi wedi rhoi "grym rhesymol, cyffwrdd a chadw ar ôl" ar hyn o bryd...
No virus found in this message.----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">martin davies
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, August 28, 2012 12:37 PM
Subject: Re: Detention
Defyddir 'ataliad' yn yr ardal hon (Llanelli)
> Date: Tue, 28 Aug 2012 12:04:48 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Detention
> To: [log in to unmask]
>
> Holwyd yn 2004 am derm am 'detention' sef cadw plentyn yn yr ysgol ar ôl amser mynd adre fel cosb.
>
> Ydi 'cadw ar ôl' yn iawn fel term neu oes yna rywbeth arall sy'n cael ei ddefnyddio yn ein hysgolion?No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12