Print

Print


Ie, dwi'n gwybod.

A fel rwyt ti'n deud, maen cymryd mwy o amser na'r cyfieithu yn aml.

Ond i rywun sy'n hoffi ffidlan, mae'n egwyl fach o'r gwaith cyfieithu!  ;-)

Geraint

----- Original Message ----- 
From: "Carolyn" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, August 29, 2012 11:40 AM
Subject: ATB: anghysondeb


Mae hynny'n gweithio'n iawn efo'r rhan fwyaf ti'n iawn, Geraint ond mae 'na 
rai dogfennau pdfs sydd heb eu henwi fel hyn. Wedyn mae'n rhaid teipio'r 
teitl Saesneg yn Gwgl, gobeithio bod hynny'n mynd â chi i'r dudalen ar wefan 
y Llywodraeth/Cynulliad lle mae'r ddolen i'r PDF, newid iaith y dudalen ar y 
top a gobeithio bod cyfeiriad at y fersiwn Gymraeg yn rhywle yn y fan honno. 
Pan fydd popeth arall yn methu, mi fydda i'n trio meddwl beth fyddai'r teitl 
tebygol yn Gymraeg, yn teipio hwnnw i Gwgl ac yna'n gobeithio y daw rhywbeth 
i'r golwg. Mae hyn yn iawn os oes gan rywun un neu ddau gyfeiriad ond 
weithiau, mae dogfennau hir y Llywodraeth/Cynulliad yn cynnwys degau os nad 
cannoedd o'r rhain. Ac ydyn ni'n cael ein talu am chwilio amdanyn nhw???
Carolyn

-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and 
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint 
Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 29 Awst 2012 11:36
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: anghysondeb

Ystryw arall gyda dogfennau'r Cynulliad yn enwedig ydi canfod y llythrennau
"en" tua diwedd y cyfeiriad http a rhoi'r llythrennau "cy" yn eu lle.

Wedyn golygu'r hyperddolen yn y ddogfen fel bod y defnyddiwr Cymraeg yn cael
ei gyfeirio at y fersiwn Cymraeg.

Geraint

----- Original Message ----- 
From: "Carolyn" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, August 29, 2012 11:30 AM
Subject: ATB: anghysondeb


Oes , dw i'n gwybod a dw i'n cytuno, ond y broblem yw nad pawb yn gyfarwydd
â'r 'ystrywiau' hyn a bod hynny wedyn yn creu'r anghysonderau sy'n codi.
Efallai y byddai'n syniad i Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru drefnu sesiwn
hyfforddi ar hyn - mi awgryma i hynny iddyn nhw. Dw i'n siŵr bod gan sawl
cyfieithydd ei 'ystrywiau' ei hun i gael gafael ar y dogfennau hyn ac fe
allen nhw rannu'r wybodaeth â phobl sy'n llai cyfarwydd â'r gwefannau.
Carolyn

-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, Tim
Anfonwyd/Sent: 29 Awst 2012 11:13
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: anghysondeb

Mae nifer o ystrywiau eithaf rhwydd ar gyfer cael hyd i'r testun Cymraeg
e.e. newid 'assemblywales' i 'cynulliadcymru' mewn llwybr ffeil. Cytunaf fod
dilyn y trywydd yn lletchwith ar y naw weithiau, ond rhaid ei wneud.

T

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 29 August 2012 10:57
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: anghysondeb

Dw i'n meddwl mai'r broblem fawr (os nad yw pobl yn gyfarwydd â gwefan y
Llywodraeth a gwefan y Cynulliad) yw dod o hyd i'r dogfennau perthnasol. Os
yw'r cyfeiriad yn y ddogfen Saesneg at ffeil pdf, mae'n gallu bod yn anodd
dod o hyd i'r fersiwn Gymraeg. Dyna pryd mae pobl yn tueddu i ailgyfieithu
teitlau a dyfyniadau dw i'n meddwl. Dw i'n meddwl weithiau tybed a ddylai
awduron y dogfennau hyn gynnwys cyfeiriad at ddwy fersiwn y ddogfen wrth
ysgrifennu. Mae dod o hyd i deitlau dros 60 a mwy o ddogfennau ar gyfer
rhestr gyfeiriadau'n gallu bod yn fwy o draul ar amser cyfieithydd na'r
cyfieithu.
Carolyn

-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- Oddi wrth/From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar ran Saunders, Tim
Anfonwyd/Sent: 29 Awst 2012 10:50
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: anghysondeb

O ddyfynu dogfen, dylid nodi'n gywir beth sydd ynddi, beth bynnag fod barn
rhywun am gywirdeb neu addasrwydd y testun.

T

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 29 August 2012 10:08
To: [log in to unmask]
Subject: Re: anghysondeb

Diolch, Tim
Dyna gadarnhau beth roeddwn i'n meddwl ei wneud.

Pwynt arall!
Mae'r ddogfen dan sylw yn dyfynnu amryw o ddogfennau eraill, heb gynnwys y
dyfyniadau mewn dyfynodau e.e.
According to the Procedures, practitioners should:
a) lgkm emfnfg merofn ...
b) ontp dnmbn mendgon ...
c) ,e0gnddd ddeognt ...

Weithiau, dydi'r fersiwn Gymraeg yn y ddogfen a gyhoeddwyd ddim yn ymddangos
yn hollol gywir i mi.
A oes gen i hawl i'w newid - yn enwedig gan nad oes dyfynodau?   Un
enghraifft rwy newydd sylwi arni - mae'n sôn am blant yn datblygu'n
"empowered individuals" ac mae'r Gymraeg swyddogol yn dweud "unigolion
grymus" - nad yw'n cyfleu'r un syniad yn union.

Diolch eto

Siân


On 2012 Awst 29, at 9:18 AM, Saunders, Tim wrote:

> Teitl y ddogfen yw teitl y ddogfen, sef 'Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru
> Gyfan' - sydd, os gwir y cof, yn cynnwys nifer o weithdrefnau i'w dilyn
> mewn amgylchiadau penodol. Fe allai fod yn werth nodi fod rhai pobl yn
> ailgyieithu'r teitl Saesneg, yn hytrach na dilyn beth sydd ar yr
> wynebddalen.
>
> Ynglŷn a'r 'relationships',  unwaith eto fe saif teitl y ddogfen dan sylw
> fel ag y mae. Er hyn os nad yw rhywun yn dyfynnu, doeth o beth fyddai
> cyfeirio at yr amrywiaeth o dermau sy'n cael eu harfer - yn yr un ddogfen,
> ar adegau!
>
> Yn iach,
>
>
> Tim
>
>
> Tim Saunders
> Cyfieithydd Translator
> Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County
> Borough Council
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of
> Sian Roberts
> Sent: 29 August 2012 09:11
> To: [log in to unmask]
> Subject: anghysondeb
>
> All Wales Child Protection Procedures 2008
>
> Gan amlaf, cyfeirir at y rhain fel Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru
> Gyfan - mae Google yn dod o hyd i 2140 o enghreifftiau o'r union derm.
>
> Ond y teitl ar y ddogfen ei hunan yw Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru
> Gyfan.
>
> Beth sydd orau i'w wneud wrth gyfeirio at y ddogfen?  A ddylid cydnabod
> bod y ddau enw'n cael eu defnyddio?
>
>
> Hefyd, ar fater tebyg, mae TermCymru'n rhoi "addysg rhyw a
> chydberthynas" (Statws 1) am "sex and relationships education" ond mae
> llawer o ddogfennau yn defnyddio "addysg rhyw a pherthnasoedd" e.e.
> Canllawiau diweddaraf Llywodraeth y Cynulliad - "Addysg Rhyw a
> Pherthnasoedd mewn Ysgolion" (2010)
> http://wales.gov.uk/docs/dcells/publications/100908sexedcy.pdf
>
> Rwy'n meddwl y cadwaf i at "perthnasoedd" yn y cyfieithiad am fod yr holl
> ddyfyniadau etc yn defnyddio "perthnasoedd" yn hytrach na "cydberthynas".
>
>
> Diolch
>
> Siân


-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5231 - Release Date: 08/28/12


-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5231 - Release Date: 08/28/12