Dw i'n teimlo bod angen y fannod hefyd, neu mae'n awgrymu bod 'na fwy nag un o'r Cyfarwyddwyr hyn yn y corff. Carolyn _____ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen Anfonwyd/Sent: 28 Awst 2012 10:12 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: y fannod Does yna ddim byd o'i le ar Adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol hyd y gwela i. Mae'r un ola dipyn yn drwsgl ond mae'n rhaid cael y fannod - yr unig bosibilrwydd arall ydi cynnwys cromfachau - Adroddiad y Cyfarwyddwr Gweithredol (Cynllunio a Pherfformiad). Geraint ----- Original Message ----- From: Rhian <mailto:[log in to unmask]> Huws To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, August 28, 2012 9:27 AM Subject: y fannod Bore da bawb Mae gen i restr o deitlau sy'n cynnwys pethau fel: Director of Corporate Services Report Executive Director of Planning and Performances Report Director of Finance report Dwi'n dechrau drysu fy hun yn meddwl a ddylid cynnwys y fannod ai peidio. Mae 'Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyllid' yn swnio'n ddigon naturiol i mi ond mae cynnwys y fannod mewn ambell detil yn swnio'n chwithig e.e. Adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol / Adroddiad y Cyfarwyddwr Gweithredol Cynllunio a Pherfformiad. Yn ddiolchgar am unrhyw gymorth. Rhian No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5229 - Release Date: 08/27/12