Print

Print


Ia'n bendant y bobol sy'n siarad nid y peiriant, rwan dwi'n cofio, achos mae rhai o'r penawdau'n cynnwys 'us' a 'we'. Dwi am gau ngheg rwan wedi cael deud fy neud!

Anna

2012/7/31 anna gruffydd <[log in to unmask]>
Dewch yn rhan o'n gwaith ni - cwmni theatr ydyn nhw a dyna be maen nhw isio i bobol neud.


Anna

2012/7/31 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Ydw siwr - be roist ti yn diwedd te, rhywbeth fel "Dewch gyda ni"?
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, July 31, 2012 4:54 PM
Subject: Re: ATB: get involved

Aha! dwi'n meddwl mod i'n gwbod be sy gen i rwan. Yn yr achos yma, doeddwn i ddim yn teimlo mai'r peiriant oedd yn siarad efo'r bobol, ond yn bobol sydd y tu ol i'r wefan yn siarad efo'r bobol drw'r peiriant ac yn cyfleu'r ffaith fod arnyn nhw isio i bobol neud rwbath, nid eu bod yn eu gorchymyn nhw. Ti'n dallt be sgin i?

Anna

2012/7/31 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Ie, ond y peiriant sy'n siarad efo chi ynde? Yn deud wrthoch chi "Get involved". Ond dewis ydi o ynde, nid gorchymyn, gallwch ddewis clicio neu beidio. A dwi'm yn meddwl y dylai peiriant siarad yn orchmynnol efo pobol beth bynnag!
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, July 31, 2012 4:28 PM
Subject: Re: ATB: get involved

Ydi, wn i, ac mae'n ddiamwys yn orchmynol yn Eidaleg. Teimlad yn f'esgyrn oedd o, fel deudais i, am fod y penawda'n siarad efo pobol nid peiriant.

Anna

2012/7/31 Carolyn <[log in to unmask]>

Ond mae'r Saesneg yn orchmynnol

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 31 Gorffennaf 2012 14:56


At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: get involved

 

O - felly dim gorchmynnol sydd eisiau yma a deud y gwir ond berfenw.

 

Cymryd rhan? Cyfranogi? Gwneud eich rhan? Mynd amdani?

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]

Sent: Tuesday, July 31, 2012 2:22 PM

Subject: Re: get involved

 

Sori, ddylwn i fod wedi egluro'n well - cyswllt i fynd at wahanol ran o'r wefan on i'n ei feddwl.

Anna

2012/7/31 anna gruffydd <[log in to unmask]>

Does na ddim paragraff - pennawd ar wefan dio felly mae'n hollol ar ei ben ei hun, dyna pam codais i'r mater eto.

Anna

 

2012/7/31 Sian Roberts <[log in to unmask]>

Neu, os ydi'r paragraff odano'n ddigon clir, "Beth amdani?"  neu "Rhowch gynnig arni"

 

 

 

On 31 Gorff 2012, at 12:21, Ann Corkett wrote:



Bali neges wedi sticio yn y blwch Allan eto.

 

Da; neu “gwnewch eich rhan” os bydd hynny’n addas?

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]On Behalf Of Garry Nicholas
Sent: 31 July 2012 11:42
To: [log in to unmask]
Subject: Re: get involved

 

Byddwch yn rhan (o'n gwaith ni)

Garry

-----Original Message-----
From: anna gruffydd <[log in to unmask]>
To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG <[log in to unmask]>
Sent: Tue, 31 Jul 2012 11:33
Subject: get involved

tybed fasa Dewch yn rhan o'n gwaith ni yn gwneud y tro - dio ddim yn fachog mi wn, ond....

Anna