Mae’n gysur mawr gwbod taw nid fi yw’r unig un sydd yn y tywyllwch!! From: anna gruffydd Sent: Monday, July 30, 2012 8:23 AM To: [log in to unmask] Subject: Re: Police Objective Analysis Dim cymorth o gwbl!!! Mae'n dal run mor amwys bob tamad tydi? Anna 2012/7/30 Bet Eldred <[log in to unmask]> Helo Bawb Diolch am y cynigion. Cytuno’n llwyr Anna! Is-deitl yw “Police Objective Analysis in Comprehensive Income and Expenditure Account” dan brif deitl ‘Previous period adjustments’ mewn Datganiad o gyfrifon a dyma’r frawddeg sy’n dilyn: Following consultation on the 2012 Police Objective Analysis, an amendment has been made retrospectively in the Service Expenditure Analysis for 2011/12 and 2012/13. Tybed a yw hyn o unrhyw gymorth?! Rwyf wedi holi’r cwsmer hefyd nawr. Diolch Bet From: anna gruffydd Sent: Sunday, July 29, 2012 2:42 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: Police Objective Analysis Gwyn ei byd y Saesneg sy'n gallu bod mor odidog o amwys heb orfod poeni am ystyr dim byd! Anna 2012/7/29 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> Neu fe allai fod yn Blismona'r Dadansoddiad Gwrthrychol... ----- Original Message ----- From: anna gruffydd To: [log in to unmask] Sent: Sunday, July 29, 2012 1:46 PM Subject: Re: Police Objective Analysis Neu fe allai fod yn Ddadansoddiad Gwrthrychol gan yr Heddlu..... Anna 2012/7/29 Sian Roberts <[log in to unmask]> Allai e fod yn "Dadansoddiad o Amcanion yr Heddlu"? Ond wedyn, mae'r Saesneg yn gallu rhaffu geiriau wrth ei gilydd heb arddodiaid a chysyllteiriau rhyngddyn nhw ac, yn aml iawn, dydyn nhw ddim i weld yn gwneud synnwyr. Ges i "Exam entry award request notification" i'w gyfieithu yr wythnos ddiwetha. Fe ofynnais i am esboniad ac fe ges i ryw aralleiriad reit niwlog nad oedd yn cynnwys dim byd tebyg i ddau neu dri o'r geiriau. Wedyn fe ofynnais i iddyn nhw roi brawddeg o esboniad oedd yn cynnwys pob un o'r geiriau neu rywbeth tebyg. Daeth y cwsmer yn ôl i ddweud mai'r ystyr oedd "Notification of an award being completed"! Felly, fe allai fod yn unrhyw beth! Hwyl Siân On 29 Gorff 2012, at 12:53, Geraint Lovgreen wrote: Byddai ychydig o gyd-destun yn help! Ar ei ben ei hun dydi o'n gwneud fawr o synnwyr. ----- Original Message ----- From: Bet Eldred To: [log in to unmask] Sent: Saturday, July 28, 2012 2:55 PM Subject: Police Objective Analysis Oes unrhyw un wedi dod ar draws yr uchod. A dweud y gwir nid yw’r teitl isod yn gwneud rhyw lawer o synnwyr i fi a byddem yn ddiochgar iawn os gallai un ohonoch gynnig ychydig oleuni ar y peth. Police Objective Analysis in Comprehensive Income and Expenditure Account Diolch ynlaen llaw. Cofion Bet