Os nad oes cyfieithiad uniongyrchol yn y geiriadur ond mae'r elfennau wedi'u cyfieithu o'r blaen h.y. hetero a normadol, dw i'n siwr y byddai hwn yn dderbyniol. Yn enwedig am ei fod yn swnio mor debyg i'r Saesneg ac felly mae ei ystyr yn mynd i fod yn amlwg ( i unrhyw un sy'n gyfarwydd â'r maes beth bynnag! ) Sian Date: Thu, 26 Jul 2012 14:25:42 +0100 From: [log in to unmask] Subject: Re: heteronormativity To: [log in to unmask] Fe wnes i feddwl am ddau o’r cynigion hyn (y ddau olaf), ond doeddwn i ddim yn gwybod a ydyn nhw’n bodoli fel termau, ac yn fwy na hynny, yn teimlo ‘pwy ydw i i fod yn dyfeisio termau?’ Ond os ydy rhywun arall yn meddwl am yr un pethau, mae hynny’n rhoi ychydig bach o hyder i mi i’w defnyddio! From: Sian Jones Sent: Thursday, July 26, 2012 2:13 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: heteronormativity heteronormadedd? heteronormadrwydd? heteronormadoledd.........?? Byddai'r cynta'n well - ydy hwnna'n gweithio? Sian > Date: Thu, 26 Jul 2012 14:09:53 +0100 > From: [log in to unmask] > Subject: heteronormativity > To: [log in to unmask] > > Neb am gynnig?? > > -----Original Message----- > From: Gareth Jones > Sent: Thursday, July 26, 2012 12:54 PM > To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > Subject: heteronormativity > > Tybed a oes rhywun wedi clywed am y term hwn? > > Dyma'r diffiniad: > > Heteronormativity is a term to describe any of a set of lifestyle norms that > hold that people fall into distinct and complementary genders (man and > woman) with natural roles in life. It also holds that heterosexuality is the > normal sexual orientation, and states that sexual and marital relations are > most (or only) fitting between a man and a woman. Consequently, a > "heteronormative" view is one that involves alignment of biological sex, > sexuality, gender identity, and gender roles. > > Yn ol GyrA, normadol ydy normative, felly y cam nesaf ydy canfod > cyfieithiad o normativity - unrhyw awgrym, os gwelwch yn dda?