Cytuno! ----- Original Message ----- From: Matthew Clubb [auc] To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 19, 2012 2:41 PM Subject: ATB: Escort / Escort Agency Mmm, y drwg gyda 'guru' yw nad yw'n gweithio ar lafar o gwbl! Mae'r rhywun yn mynd i glywed y pethau rhyfeddaf: "Mae fe'n dipyn o gwrw yn y maes", "All rhywun feddwl am ryw gwrw i siarad yn ein cynhadledd?" Ie, beth am Tomos Watkins? Weithiau yr ymadrodd neu'r priod-ddull sydd ei angen: 'dyn hysbys', 'enw mawr', 'ffigur o fri', 'rhywun uchel ei barch / mawr ei fri / ddylanwad', 'un o'r arbenigwr pennaf' Gwnaiff 'esgort' y tro mae'n siwr, ond rwy'n hoffi 'cwmnïaeth' - mae'n disgrifiad digon amwys ond dealladwy - ac mae'r geiriau 'cwmnïwr' a 'chwmniwraig' eisoes ar gael yn y Gymraeg. ------------------------------------------------------------------------------ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd Anfonwyd/Sent: 19 Gorffennaf 2012 13:01 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Escort / Escort Agency Mi faswn i'n cymeradwyo escort/esgort. Fydda i'n meddwl ein bod ni weithia'n gor-gyfieithu - mae'r ymadroddion a'r priod-ddullia'n bwysicach na'r geiria. Ac ella, os dyn nhw'n eiria sy'n swnio'n Gymraeg, heb unrhyw lythrenna na dyn nhw'm yn bod yn yr wyddor Gymraeg, bod yn well eu gadael nhw, gael bod yn groyw ac yn ddealladwy. Dro'n ol ddaru mi adael guru fel roedd o, wedi'i italeiddio, achos wedi'i dreiglo roedd yn amwys y tu hwnt. Anna 2012/7/19 Eleri Lovgreen <[log in to unmask]> Well gen i 'esgort'. Mae putain yn rhy gryf, hyd yn oed yn y cyd-destun hwn, dybiwn i. ----- Original Message ----- From: Symons, David To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 19, 2012 11:48 AM Subject: Re: Escort / Escort Agency Diolch am eich holl sylwadau. Diolch am ein cyfraniadau i gyd. Fel y nododd Carolyn, ac mae sawl un arall wedi awgrymu, mae ‘na elfen (weddol gref) o feirniadaeth i ‘butain’, a dw i am osgoi hynny os yn bosib – dyna oedd un o’r rhesymau dros ddechrau’r drafodaeth yn y lle cyntaf. A fyddai defnyddio ‘escort’ (neu hyd yn oed ‘esgort’!!) yn dderbyniol, tybed? Fel mae Siôn yn nodi, mae ‘escorte’ yn cael ei ddefnyddio fel gair benthyg o’r Saesneg yn y Ffrangeg, felly mi allwn wneud hynny yn y Gymraeg hefyd, er, dw i ddim cant y cant yn hapus gyda hynny... David Symons Cyfieithydd / Translator Cronfa Loteri Fawr / Big Lottery Fund Tŷ Ladywell / Ladywell House Y Drenewydd / Newtown Powys SY16 1JB Ffôn / Telephone: 01686 611729 Mewnol / Internal: 8729 [log in to unmask] Llinell Gynghori Fawr | BIG Advice Line : 0300 123 0735 www.biglotteryfund.org.uk/wales www.cronfaloterifawr.org.uk www.twitter.com/BigLotteryWales From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim Sent: 19 July 2012 11:20 To: [log in to unmask] Subject: Re: Escort / Escort Agency Amau hefyd fod y term 'asiantaeth buteiniaid' ychydig bach yn rhy eang. Yn iach, T -------------------------------------------------------------------------- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 19 July 2012 11:07 To: [log in to unmask] Subject: Re: Escort / Escort Agency Sut mae ieithoedd eraill yn delio â hyn? Ffrangeg? Eidaleg - Anna? Dw innau'n gweld 'putain' braidd yn or-ddi-flewyn-ar-dafod. ----- Original Message ----- From: Sian Roberts To: [log in to unmask] Sent: Thursday, July 19, 2012 10:59 AM Subject: Re: Escort / Escort Agency Fyddai cadw "escort" yn ffordd o gadw'r amwysedd? Mae'n swnio'n air Cymraeg. Siân On 19 Gorff 2012, at 10:31, Symons, David wrote: Diolch Anna a Carolyn, am eich sylwadau. Yr anhawster sydd gennyf fan hyn yw bod ‘escorts’ ac ‘escort agency’ yn cael eu defnyddio yn y darn dw i’n ei gyfieithu yn benodol yng nghyd-destun y diwydiant rhyw. Yn Saesneg mae’r term ‘escort’ yn cael ei ddefnyddio i ryw raddau fel gair llednais ond wrth gwrs ‘dyw’r amwysedd y mae’n ei gyfleu’n bodoli yn y Gymraeg, oni bai y gall rhywun awgrymu unrhyw beth arall. Felly rwy’n credu, yn y cyd-destun yma, y bydd yn rhaid i mi ddefnyddio ‘putain’ / ‘asiantaeth buteiniaid’ gan mai dyna beth sy’n cael ei drafod yn y bôn, er mor ddi-flewyn-ar dafod y mae’n swnio. David Symons Cyfieithydd / Translator Cronfa Loteri Fawr / Big Lottery Fund Tŷ Ladywell / Ladywell House Y Drenewydd / Newtown Powys SY16 1JB Ffôn / Telephone: 01686 611729 Mewnol / Internal: 8729 [log in to unmask] Llinell Gynghori Fawr | BIG Advice Line : 0300 123 0735 www.biglotteryfund.org.uk/wales www.cronfaloterifawr.org.uk www.twitter.com/BigLotteryWales From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Sent: 19 July 2012 10:04 To: [log in to unmask] Subject: ATB: Escort / Escort Agency Yn y cyd-destun yma, faswn i'n meddwl bod 'escort' yn cael tâl ac os felly, dw i ddim yn meddwl bod 'cymar' ar ei ben ei hun yn ddigon i gyfleu'r ystyr. Dw i'n meddwl y byddai'n rhaid cael rhywbeth i gyfleu'r trefniant ariannol ac felly mae 'gwasanaeth partneru' yn nes ati dw i'n meddwl na 'phartner/cymar' ------------------------------------------------------------------------ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd Anfonwyd/Sent: 18 Gorffennaf 2012 17:43 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Escort / Escort Agency Go brin bod putain yn addas - dydi 'escorts' ddim o anghenraid yn 'cysgu' (a bod yn boleit) efo'u cyflogwyr - ella na jyst mynd allan am bryd o fwyd maen nhw (am a wn i, dwi ddim yn arbenigrwaig yn y maes). Ond on i'n medwl mai dyna oedd y syniad - rhywun i fynd allan efo fo ne hi yn niffyg rhywun mae rhywun yn nabod ne yn niffyg rhywun mae rhywun yn nabod sydd ar gael. Faswn i'n meddwl bod cynigion GyrA yn ddigon addas - maen nhw'n eitha penagored. Mi all 'cymar' neu 'partner' olygu a gwneud sawl peth. Dim ond un peth mae 'putain' yn ei olygu, ddyliwn i. Anna 2012/7/18 Symons, David <[log in to unmask]> Gwn fod y termau hyn yn ymddangos yng Ngeiriadur yr Academi, ond tybed a yw’r diffiniadau a roddir, h.y. ‘partner’/’partneres’, ‘cymar’, ‘gwasanaeth partneru’, yn cyfleu’n llawn yr hyn a olygir gan ‘escort’ y dyddiau hyn? Mi allwn i gyfieithu fel ‘putain/puteiniaid’ ac ‘asiantaeth buteiniaid’ neu hyd yn oed ‘puteindy’ o fewn cyd-destun penodol, ond ai dyna’r unig ystyr sydd i’r geiriau hyn bellach? A oes unrhyw un arall wedi dod ar draws rywbeth tebyg wrth gyfieithu, ac os felly sut gwnaethoch ei oresgyn? Diolch ymlaen llaw, Dave David Symons Cyfieithydd / Translator Cronfa Loteri Fawr / Big Lottery Fund Tŷ Ladywell / Ladywell House Y Drenewydd / Newtown Powys SY16 1JB Ffôn / Telephone: 01686 611729 Mewnol / Internal: 8729 [log in to unmask] Llinell Gynghori Fawr | BIG Advice Line : 0300 123 0735 www.biglotteryfund.org.uk/wales www.cronfaloterifawr.org.uk www.twitter.com/BigLotteryWales <image001.jpg>- This email is confidential and intended solely for the use of the individual to whom it is addressed. The contents of this message will not be in any way binding upon the Big Lottery Fund. Opinions, conclusions, contractual obligations and other information in this message, in so far as they relate to the official business of the Big Lottery Fund, must be specifically confirmed in writing by the Big Lottery Fund. If you are not the intended recipient, be advised that you have received this email in error and that any use, dissemination, forwarding, printing, or copying of this email is strictly prohibited. Additionally, the information contained in this email may be subject to public disclosure under the Freedom of Information Act 2000. This e-mail has been scanned for all viruses by Websense. For more information on a proactive anti-virus service working around the clock, around the globe, visit: http://www.websense.com Click here to report this email as spam.