Print

Print


Wrth edrych ar ddiffiniadau ar y we - mae 'escort' yn gallu bod yn 'butain' ond mae'n gallu cynnig gwasanaethau eraill hefyd ac fel rheol, mae'n cael mwy o dâl - rhyw fath o 'butain' uchel-ael! Dydy escort ddim fel rheol yn gwerthu ei hun ar y stryd, mae'r trefniant yn cael ei wneud o flaen llaw.  Hefyd mae'r gair 'putain' (a 'prostitute' yn Saesneg) erbyn hyn yn awgrymu elfen o feirniadaeth lle mae 'escort' yn fwy niwtral felly dw i'n meddwl bod 'na elfen o iaith fwy PC yma hefyd.

 

  _____  

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 19 Gorffennaf 2012 11:07
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Escort / Escort Agency

 

Sut mae ieithoedd eraill yn delio â hyn? Ffrangeg? Eidaleg - Anna?

 

Dw innau'n gweld 'putain' braidd yn or-ddi-flewyn-ar-dafod.

----- Original Message ----- 

From: Sian <mailto:[log in to unmask]>  Roberts 

To: [log in to unmask] 

Sent: Thursday, July 19, 2012 10:59 AM

Subject: Re: Escort / Escort Agency

 

Fyddai cadw "escort" yn ffordd o gadw'r amwysedd? Mae'n swnio'n air Cymraeg. 

 

Siân

 

On 19 Gorff 2012, at 10:31, Symons, David wrote:





Diolch Anna a Carolyn, am eich sylwadau.

Yr anhawster sydd  gennyf fan hyn yw bod ‘escorts’ ac ‘escort agency’ yn cael eu defnyddio yn y darn dw i’n ei gyfieithu yn benodol yng nghyd-destun y diwydiant rhyw.

Yn Saesneg mae’r term ‘escort’ yn cael ei ddefnyddio i ryw raddau fel gair llednais ond wrth gwrs ‘dyw’r amwysedd y mae’n ei gyfleu’n bodoli yn y Gymraeg, oni bai y gall rhywun awgrymu unrhyw beth arall.

Felly rwy’n credu, yn y cyd-destun yma, y bydd yn rhaid i mi ddefnyddio ‘putain’ / ‘asiantaeth buteiniaid’ gan mai dyna beth sy’n cael ei drafod yn y bôn, er mor ddi-flewyn-ar dafod y mae’n swnio.

David Symons

Cyfieithydd / Translator

Cronfa Loteri Fawr / Big Lottery Fund

Tŷ Ladywell / Ladywell House

Y Drenewydd / Newtown

Powys SY16 1JB

Ffôn / Telephone: 01686 611729

Mewnol / Internal: 8729

[log in to unmask]

Llinell Gynghori Fawr | BIG Advice Line : 0300 123 0735

www.biglotteryfund.org.uk/wales

www.cronfaloterifawr.org.uk

www.twitter.com/BigLotteryWales

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 19 July 2012 10:04
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Escort / Escort Agency

Yn y cyd-destun yma, faswn i'n meddwl bod 'escort' yn cael tâl ac os felly, dw i ddim yn meddwl bod 'cymar' ar ei ben ei hun yn ddigon i gyfleu'r ystyr. Dw i'n meddwl y byddai'n rhaid cael rhywbeth i gyfleu'r trefniant ariannol ac felly mae 'gwasanaeth partneru' yn nes ati dw i'n meddwl na 'phartner/cymar'


  _____  


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran anna gruffydd
Anfonwyd/Sent: 18 Gorffennaf 2012 17:43
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Escort / Escort Agency

Go brin bod putain yn addas - dydi 'escorts' ddim o anghenraid yn 'cysgu' (a bod yn boleit) efo'u cyflogwyr - ella na jyst mynd allan am bryd o fwyd maen nhw (am a wn i, dwi ddim yn arbenigrwaig yn y maes). Ond on i'n medwl mai dyna oedd y syniad - rhywun i fynd allan efo fo ne hi yn niffyg rhywun mae rhywun yn nabod ne yn niffyg rhywun mae rhywun yn nabod sydd ar gael. Faswn i'n meddwl bod cynigion GyrA yn ddigon addas - maen nhw'n eitha penagored. Mi all 'cymar' neu 'partner' olygu a gwneud sawl peth. Dim ond un peth mae 'putain' yn ei olygu, ddyliwn i.

Anna

2012/7/18 Symons, David <[log in to unmask]>

Gwn fod y termau hyn yn ymddangos yng Ngeiriadur yr Academi, ond tybed a yw’r diffiniadau a roddir, h.y.  ‘partner’/’partneres’, ‘cymar’, ‘gwasanaeth partneru’, yn cyfleu’n llawn yr hyn a olygir gan ‘escort’ y dyddiau hyn?

Mi allwn i gyfieithu fel ‘putain/puteiniaid’ ac ‘asiantaeth buteiniaid’ neu hyd yn oed ‘puteindy’ o fewn cyd-destun penodol, ond ai dyna’r unig ystyr sydd i’r geiriau hyn bellach? A oes unrhyw un arall wedi dod ar draws rywbeth tebyg wrth gyfieithu, ac os felly sut gwnaethoch ei oresgyn?

Diolch ymlaen llaw,

Dave

David Symons

Cyfieithydd / Translator

Cronfa Loteri Fawr / Big Lottery Fund

Tŷ Ladywell / Ladywell House

Y Drenewydd / Newtown

Powys SY16 1JB

Ffôn / Telephone: 01686 611729

Mewnol / Internal: 8729

[log in to unmask]

Llinell Gynghori Fawr | BIG Advice Line : 0300 123 0735

www.biglotteryfund.org.uk/wales

www.cronfaloterifawr.org.uk

www.twitter.com/BigLotteryWales

<image001.jpg>-

This email is confidential and intended solely for the use of the individual to whom it is addressed.

The contents of this message will not be in any way binding upon the Big Lottery Fund. Opinions,

conclusions, contractual obligations and other information in this message, in so far as they relate to the official business of the Big Lottery Fund,

must be specifically confirmed in writing by the Big Lottery Fund.

If you are not the intended recipient, be advised that you have received this email in error and that any use, dissemination, forwarding, printing,

or copying of this email is strictly prohibited. Additionally,

the information contained in this email may be subject to public disclosure under the Freedom of Information Act 2000.

This e-mail has been scanned for all viruses by Websense. For more information on a proactive anti-virus service working around the clock, around the globe, visit: http://www.websense.com

Click here <https://www.mailcontrol.com/sr/E3!PoRtWwobTndxI!oX7Uq0JINmXjwVqoLNBpq+CQfIRUiM0g!6PFpaW0iz6uNJJmAY4IAj0uyGUUtXYzJog3g==>  to report this email as spam.