Print

Print



O'n Geirfa Gronnus ni:
 

arwystl   Rhwymedigaeth i dalu arian wedi’i gosod ar berson neu ystad; ernes dros dalu dyled neu rwymedigaeth arall nad yw'n trosglwyddo 'eiddo' nac unrhyw hawl feddiant i'r person y rhoir yr arwystl iddo/i. charge

 

pridiant       Hawl neu lyffethair cofrestradwy ar dir, heb o reidrwydd bod yn ariannol.       charge

 
 
Yn iach,
 
 
 
Tim
 
 
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 03 July 2012 15:23
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: impose a charge on the property

Dw i'n meddwl bod ystyr 'charge' fan hyn yn wahanol Bet - mae'n golygu rhyw fath o 'arwystl' dw i'n meddwl, sef bod y Cyngor yn gallu meddiannu'r eiddo er mwyn adennill yr arian sy'n ddyledus os bydd angen.

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Bet Eldred
Anfonwyd/Sent: 03 Gorffennaf 2012 15:05
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: impose a charge on the property

 

Prynhawn da,

 

Dyma’r cyd-destun:

 

Where the intention is clearly to obtain more funding from the Council, rather than paying for care yourself, measures can be taken to recover the property, to impose a charge on the property or refuse to support you financially but, in order to do so, the local authority has to prove that this was a significant intention behind the making of the gift.

 

Ydy “codi tâl yn erbyn yr eiddo “ yn gywir?  Sa i’n hollol siŵr o’r ystyr.  Ai codi tâl ar y sawl y rhoddwyd yr eiddo iddo yw’r ystyr?  Help!

 

Diolch ymlaen llaw

 

Bet