Cynghorwr Achredu Amgueddfeydd - Aberystwyth, Ref:1255939 Atodir disgrifiad swydd yn y Gymraeg yn unig. Am fanylion llawn a'r ffurflen gais, ewch i http://tinyurl.com/2e8zhv <<Cynghorwr Achredu Amgueddfeydd - Cymraeg.doc>> Mae'r fformat ddwyieithog yn safonol am swyddi Llywodraeth Cymru. Nid yw'r swydd yn gofyn eich bod yn siaradwr Cymraeg (er y byddai hyn yn fantais) ond mae'n rhoi cyfle unigryw i ddysgu sut i weithio mewn amgylchedd dwyieithog. Ers ei greu mae CyMAL wedi magu enw da am fod yn hygyrch i'r sector ac yn hawdd i ddelio â hwy. Bydd y swydd hon yn helpu i gynnal y diwylliant hwn o gefnogi a helpu'r sector. Mae'r ffaith fod y tîm yn gymharol fach o fewn CyMAL hefyd yn golygu bod modd dilyn a datblygu materion yng nghyd-destun y Strategaeth Amgueddfa fel rhan o weithgareddau datblygiad proffesiynol personol. CyMAL yw'r unig sefydliad datblygiad amgueddfeydd yn y DU sy'n adran o lywodraeth genedlaethol. Nid yw'n sefydliad 'hyd braich'. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu: * Gweithio gydag isadrannau polisi eraill yn y llywodraeth i ddylanwadu ar eu meysydd polisi. Er enghraifft - amgueddfeydd a'r amgylchedd hanesyddol * Sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael eu briffio mewn modd amserol a chywir am faterion amgueddfeydd lleol a chenedlaethol. * Gweithio gyda Gweinidogion i helpu i wireddu syniadau mewn ffyrdd sydd o fudd i amgueddfeydd a'u defnyddwyr. Mae'r swydd hon, felly, yn rhoi cyfle i ddysgu sut y mae polisi llywodraeth yn cael ei ddatblygu a'i weithredu ar gyfer amgueddfeydd lleol a chenedlaethol. Mae gwybodaeth bellach am y cymwyseddau a nodir ar y disgrifiad ar gael ar http://wales.gov.uk/about/recruitment/currentvacancies/generalappointments/psg/?lang=cy Mae'r fframwaith ar gyfer swyddi ar lefel Cymorth Tîm a Bandiau Rheoli'n berthnasol i'r swydd hwn. Dw i'n hapus i siarad am y swydd yn anffurfiol - mae'r manylion cyswllt isod. --- Carol Whittaker MA AMA Cynghorydd Datblygu Amgueddfeydd / Museums Development Adviser CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales Llywodraeth Cymru / Welsh Government www.cymru.gov.uk/cymal / www.wales.gov.uk/cymal 0300 062 2104 / 0300 062 2112 [log in to unmask]