Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg
This is a bilingual message - Please see below for English version
Mynegi Diddordeb ar gyfer Rhaglen Rheoli Gwirfoddolwyr.
Mae CyMAL wedi datblygu cyfres o bedwar modiwl hyfforddi un diwrnod ar Reoli Gwirfoddolwyr. Yn ystod tymor yr hydref eleni, bydd rhaglenni peilot yn cael eu cyflenwi yn y Gogledd a’r De.
Bydd y modiwlau’n egluro’r holl agweddau ar arferion gorau sy’n gysylltiedig â Rheoli Gwirfoddolwyr yn y gweithle, gan gynnwys datblygu Strategaethau a Pholisïau Gwirfoddolwyr, Recriwtio a Chadw ynghyd â Gofynion Cyfreithiol a’r modd yr ydych yn Ymwneud â Gwirfoddolwyr. Gellir mynychu modiwl un diwrnod neu’r rhaglen gyfan, sef y pedwar modiwl. Bydd rhaglenni’r cyrsiau ar gael maes o law. Yn ogystal, efallai y bydd cyfle i gyfranwyr ennill achrediad Lefel 3 ar gyfer yr hyfforddiant. Mae’r rhaglen hon am ddim ac mae ar gael ar gyfer staff neu wirfoddolwyr amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru. Un person yn unig o bob sefydliad i gymryd rhan yn y rhaglen beilot hon.
Dyma ddyddiadau’r cyrsiau
Y lleoliad yn y De – Amgueddfa Abertawe:
· Cynnwys Gwirfoddolwyr am y Tro Cyntaf: Dydd Gwener 31 Awst 2012
· Hanfodion Rheoli Gwirfoddolwyr (Rhan 1): Dydd Gwener 12 Hydref 2012
· Hanfodion Rheoli Gwirfoddolwyr (Rhan 2): Dydd Gwener 9 Tachwedd 2012
· Datblygu’r modd yr ydych yn Ymwneud â Gwirfoddolwyr: Dydd Gwener 7 Rhagfyr 2012
Y lleoliad yn y Gogledd – Castell Bodelwyddan:
· Cynnwys Gwirfoddolwyr am y Tro Cyntaf: Dydd Mawrth 4 Medi 2012
· Hanfodion Rheoli Gwirfoddolwyr: (Rhan 1) Dydd Mawrth 9 Hydref 2012
· Hanfodion Rheoli Gwirfoddolwyr: (Rhan 2) Dydd Mawrth 6 Tachwedd 2012
· Datblygu’r modd yr ydych yn Ymwneud â Gwirfoddolwyr: Dydd Mawrth4 Rhagfyr 2012
Dylech fynegi diddordeb, gan nodi pa fodiwlau yr hoffech fwy o wybodaeth amdanynt drwy anfon e-bost at: [log in to unmask]
Expressions of interest for Volunteer Management Development Programme
A series of four Volunteer Management one day training modules have been developed by CyMAL, and pilot programmes will be delivered in North and South Wales this Autumn.
The modules will cover all aspects of Volunteer Management best practice in the workplace, from developing Volunteer Strategies & Policies and Recruitment & Retention to Legal Requirements and Volunteer Engagement, and can be attended as a one-day module or the whole programme of four modules. Full course programmes will be available soon. There may also be an opportunity for participants to gain Level 3 accreditation for the training. This free programme is open to staff or volunteers from museums, archives and libraries in Wales, only one participant from each organisation can be accepted for this pilot programme.
Course dates are as follows
South Wales venue - Swansea Museum:
· Involving Volunteers for the First Time Friday 31 August 2012
· Fundamentals of Managing Volunteers (Part 1) Friday 12 October 2012
· Fundamentals of Managing Volunteers (Part 2) Friday 09 November 2012
· Developing your Volunteer Engagement Friday 07 December 2012
North Wales venue - Bodelwyddan Castle:
· Involving Volunteers for the First Time Tuesday 04 September 2012
· Fundamentals of Managing Volunteers (Part 1) Tuesday 09 October 2012
· Fundamentals of Managing Volunteers (Part 2) Tuesday 06 November 2012
· Developing your Volunteer Engagement Tuesday 04 December 2012
Please send your expression of interest, stating which modules you wish to receive more details for to: [log in to unmask]
Sue
Susan Swanson
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3UR
Llinell Union / Direct Line 0300 062 2107
Ffacs / Fax 0300 062 2052
E-bost / E-mail [log in to unmask]