Sori – teimlo’n rili dwp nawr!! Mae ‘dod ar ein holau’ yn agos ati dwi’n meddwl. Diolch, er rwy’n siwr y bydda i’n eich hambygio eto cyn diwedd y dydd! Ha Ha!!!! Bet From: anna gruffydd Sent: Wednesday, June 27, 2012 10:05 AM To: [log in to unmask] Subject: Re: chase Faswn i ddim yn cynnig hambygio mewn dogfen ffurfiol hyd yn oed yn nhre's Cofis! don i ddim o ddirfri! A 2012/6/27 Bet Eldred <[log in to unmask]> Nid yw hambygio’n air sy’n cael ei ddefnyddio yn yr ardal hon – Caerfyrddin – sori! From: anna gruffydd Sent: Wednesday, June 27, 2012 9:44 AM To: [log in to unmask] Subject: Re: chase hambygio?!!! Anna 2012/6/27 Bet Eldred <[log in to unmask]> Rwy’n credu mai’r hyn maen nhw’n ddweud yw na fydd rhaid i’r cleient orfod eu poeni i gael y wybodaeth. Bues i’n ystyried defnyddio ‘poeni’ ond a yw hynny’n awgrymu bod y cleient yn boen yn hytrach na bod y cwmni yn araf?!! Bet From: Catrin Beard Sent: Wednesday, June 27, 2012 9:19 AM To: [log in to unmask] Subject: Re: chase holi? From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Bet Eldred Sent: 27 June 2012 08:57 To: [log in to unmask] Subject: chase Bore da Dyma’r frawddeg: You will not need to chase us for information as your file will be reviewed regularly... Cwrso fydden i’n ddefnyddio ar lafar ond oes yna rhywbeth mwy ffurfiol, neu a oes angen dweud ... Ni fydd raid i chi gysylltu a ni yn gyson... Diolch Bet