Print

Print


I gau pen y mwdwl, dw i newydd gael ateb gan un o Gyfarwyddwr yr Elusen sy’n Gymro Cymraeg ac o edrych ar y daflen dan sylw, fedar o ddim gweld y byddai ‘chi’ yn gweithio yn y cyd-destun yma. Tydi hynny ddim i ddweud mai ‘ti’ y byddwn i’n ei ddefnyddio ym mhopeth sydd wedi’i anelu at blant. Credu mai’r cyd-destun a’r gynulleidfa darged sy’n bwysig yma.

 

Nid dewis rhwng ‘ti’ neu ‘chi’ oedd fy ngwestiwn gwreiddiol beth bynnag, ond p’un a yw’n dderbyniol peidio treiglo ‘gyda ti’….

 

Ta waeth am hynny, dwi’n CASAU cael fy ngalw’n ‘chi’ – yn un peth mae’n golygu bod pobl yn meddwl mod i’n hen, ac yn beth arall, sut mae nhw gwbod mod i’n haeddu’r fath barch?...

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 03 May 2012 18:17
To: [log in to unmask]
Subject: Re: y cywair anffurfiol

 

Dwi byth yn hoffi darllen "ti" ar daflenni, hysbysebion ac ati. Mae'r neges wedi'i hanelu at fwy nag un person felly 'chi' ydio, siwr iawn. Dim byd i'w wneud efo ffurfioldeb, dwi jyst yn ei weld o'n chwithig. Dwi o blaid anffurfioldeb, ond mae hyn yn fy nharo fi fel rhyw "anffurfioldeb gwneud".

 

Rhy hwyr i gymryd rhan yn y ddadl dwi'n gwybod, ond dwi wedi bod yn eistedd mewn bwth pleidleisio drwy'r pnawn!

 

Geraint

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Rhian Huws

To: [log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Thursday, May 03, 2012 2:18 PM

Subject: Re: y cywair anffurfiol

 

Mae ‘gobsmaciwyd’ yn wych! Wedi bod yn chwerthin i mi fy hun yn fama. Mae’n edrych yn fwy doniol wedi’i ysgrifennu rhywsut. Methu aros am gyfle i’w ddefnyddio.

 

O ran yr arddull, fe  benderfynais gadw at ddefnyddio ‘ti/dy’ a ‘gyda ti’  yn hytrach na chi/eich, gan fod cwestiynau fel ‘What can I do if I’m unhappy with my placement?’ ac ati, felly mae’r atebion yn ‘siarad’ yn uniongyrchol gyda’r person ifanc.

 

Diolch i bawb am eu cyfraniadau.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 03 May 2012 14:10
To: [log in to unmask]
Subject: Re: y cywair anffurfiol

 

Dw i ddim mor siwr am y "tri thractor". Ro'n i yn y Brifysgol yn astudio Cymraeg - wedi fy magu gan athrawes mewn cymdeithas Gymraeg ac wedi cael A yn fy Lefel A Cymraeg - cyn i mi wybod bod angen treiglad llaes ar ôl "tri".  Rwy'n cofio'r achlysur yn iawn - "parti" yn nhŷ yr Athro Geraint Gruffydd ac fe soniodd am "dri thŷ". Fe'm gobsmaciwyd - ro'n i'n poeni wedyn beth arall nad o'n i'n ei wybod!

 

Mae'n anodd gwybod, weithiau, pryd i ddilyn yr iaith lafar.

 

Sôn am puff-puff: Cofio rhywun yn edmygu rhes o hwyaid ar goetsh Guto ni pan oedd yn fach - 'Sbïa tshwc-tshwcs del" - ac yntau'n dweud wrthi mwya sgornllyd "Chwïaid 'dan nhw, siwr"

 

Wnes i osgoi bod yn "elderly primagravida", diolch byth, er mod i'n teimlo'n hynafol weithiau!

 

 

 

 

 

On 3 Mai 2012, at 13:08, Ann Corkett wrote:

 

… ac efallai mai mater o arfer yw dysgu “tri thractor » hefyd, neu sut mae’r naill genhadlaeth i ddysgu’r iaith ar ol y llall ?  Ond fyddai Mam byth yn gadael i bobl ddweud pethau fel “puff-puff” a “moo-moo” wrthyf fi – train a cow amdani o’r cychwyn cyntaf.

 

‘Rwy’n mynd draw i’r Rhyl i gefnogi’r brawd yng nghyfraith yn yr etholiad rwan, felly bydd yn rhaid imi golli unrhyw ddadl “by default”. Gobeithio’ch bod chi i gyd wedi pleidleisio!

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 03 May 2012 12:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: y cywair anffurfiol

 

Dwi'n meddwl y byddwn i'n derbyn "gyda ti" heblaw mewn darnau ffurfiol.

Ges i gyngor gan y Cyngor Llyfrau ryw dro i ddweud "tri tractor" mewn llyfr i blant.

 

Mae gwybod pryd i ddefnyddio "ti" mewn darnau gwybodaeth yn anodd.

Ro'n i'n gweithio ar becyn o ddefnyddiau i bobl ifanc/plant yn ddiweddar ac, wrth edrych dros y cyfieithiad wedyn, fe sylwais i mod i wedi defnyddio "chi" ar y taflenni gwybodaeth ond "ti" ar y ffurflen. Dwi'm yn gwybod a oes arwyddocad i hynny.

 

Mae'n rhyw fath o bolisi yn y byd iechyd/gofal dwi'n meddwl.

Cofio clywed am rywun yn ymweld â gwraig gweinidog, na wyddai neb fod GANDDI enw cyntaf, mewn cartref hen bobl â'r staff yn dweud "Tyd wan Lisi, gin ti fisitors". Swnio'n chwithig iawn.

 

Ond cofio mynd i Ysbyty Dewi Sant i gael babi a'r nyrsys i gyd yn fy ngalw'n "ti" er bod lot ohonyn nhw'n iau na mi. Roedd hynny'n teimlo'n od ond ar ôl rhyw ddiwrnod ro'n i'n cael symud i Ysbyty Bryn Beryl lle'r oedd rhai o'r nyrsys yn dweud "chi" ac wedyn roedd hynny'n swnio'n dra ffurfiol. Mater o arfer yw e lot, mae'n siwr.

 

  

On 3 Mai 2012, at 12:25, Ann Corkett wrote:



 

 

‘Rwy’n meddwl y byddwn i wedi methu ymatal rhag dweud rhywbeth.  ‘Rwyf newydd ddweud wrth y gwasanaeth trallwyso “this is a small matter but I’m sure it could be addressed(!) in training” a phwyso “Send” cyn meddwl gofyn am holiadur yn Gymraeg hefyd.

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 03 May 2012 12:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: y cywair anffurfiol

 

Ella'i fod o wedi'i ddysgu i neud hynny 'i wneud i ti deimlo'n gartrefol'! Pan aethon ni i drefnu angladd fy nhad roedd y trefnwr yn mynnu ei alw'n Dad (where do you want Dad to ... etc) - am yr un rheswm am wn i ond roedden ni'n ei gael yn bur ych a pych

Anna

2012/5/3 Ann Corkett <[log in to unmask]>

'Roeddwn i'n methu credu, ychydig wythnosau'n ol wrth fynd i roi gwaed.  Un
o'r nyrsys, dyn, yn fy ngalw i "Elizabeth" (f'enw cyntaf) drosodd a
throsodd, yn hollol ddiangen.  Efallai mod i wedi trio'n rhy galed i beidio
a bod yn gas.  Mi ddywedais, "At my age, I don't feel it's necessary to use
first names at all, but if I did I would be 'Ann'.  Aeth ymlaen i'n ngalw
i'n "Ann" yn ddibaid.

Wrth feddwl, nid wyf eto wedi llenwi'r holiadur bodlonrwydd a gefais dros y
We wedyn ...

Ann


-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 03 May 2012 11:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: y cywair anffurfiol

Dyma sy'n cael ei argymell ym maes pobl ag anableddau dysgu hefyd -
mai defnyddio 'chi' sydd orau wrth eu cyfarch, o ran parch.

2012/5/3 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
>
>
>
>
> Yn f’oed i, ‘doeddwn i ddim yn hoffi mentro rhoi barn, ond rhaid dweud yr
> oedd  “gyda ti” yn swnio fel “siarad i lawr” a’r bobl ifainc.
>
> Ann
>
> ________________________________
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
> Sent: 03 May 2012 10:56
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: y cywair anffurfiol
>
>
>
> Cefais argraff gyda rhai yng nghanol yr arddegau fod cael eu galw yn 'ti'
a
> gorfod ateb gyda 'chi' yn gallu bod fel tân ar groen weithiau. Cyngor y
> staff priodol oedd defnyddio 'chi' mewn tafelenni ayyb, a dyna a wnes.
Ymhen
> blwyddyn neu ddau, fodd bynnag, mae'n debyg y bydd llawer ohonynt yn galw
> 'ti' ar bawb.
>
>
>
> Yn iach,
>
>
>
>
>
>
>
> Tim
>
>
>
>
>
> Tim Saunders
>
> Cyfieithydd Translator
>
> Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County
Borough
> Council
>
>
>
> ________________________________
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
> Sent: 03 May 2012 10:18
> To: [log in to unmask]
> Subject: y cywair anffurfiol
>
> Bore Da
>
>
>
> Dim ond eisiau holi eich barn ynghylch y cywair anffurfiol.
>
>
>
> Mae gen i daflen sydd wedi’i hanelu at bobl ifanc mewn gofal. Ydi hi’n
> dderbyniol dweud, er enghraifft, ‘gyda ti’ yn lle ‘gyda thi’ mewn
cyd-destun
> felly?
>
>
>
> Rhian
>
>
>
> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may
> contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and
> should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
> authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or
> disclose it to anyone else. If you have received this transmission in
error
> please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be
> subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant
> legislation
>
> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>
>
>
> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd
> sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei
thrin
> yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r
> awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio
neu'i
> defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar
gam
> a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd
> cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth
> berthnasol.
>
> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
>
>