On 3 Mai 2012, at 13:08, Ann Corkett wrote:

… ac efallai mai mater o arfer yw dysgu “tri thractor » hefyd, neu sut mae’r naill genhadlaeth i ddysgu’r iaith ar ol y llall ?  Ond fyddai Mam byth yn gadael i bobl ddweud pethau fel “puff-puff” a “moo-moo” wrthyf fi – train a cow amdani o’r cychwyn cyntaf.

 

‘Rwy’n mynd draw i’r Rhyl i gefnogi’r brawd yng nghyfraith yn yr etholiad rwan, felly bydd yn rhaid imi golli unrhyw ddadl “by default”. Gobeithio’ch bod chi i gyd wedi pleidleisio!

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 03 May 2012 12:45
To: [log in to unmask]
Subject: Re: y cywair anffurfiol

 

Dwi'n meddwl y byddwn i'n derbyn "gyda ti" heblaw mewn darnau ffurfiol.

Ges i gyngor gan y Cyngor Llyfrau ryw dro i ddweud "tri tractor" mewn llyfr i blant.

 

Mae gwybod pryd i ddefnyddio "ti" mewn darnau gwybodaeth yn anodd.

Ro'n i'n gweithio ar becyn o ddefnyddiau i bobl ifanc/plant yn ddiweddar ac, wrth edrych dros y cyfieithiad wedyn, fe sylwais i mod i wedi defnyddio "chi" ar y taflenni gwybodaeth ond "ti" ar y ffurflen. Dwi'm yn gwybod a oes arwyddocad i hynny.

 

Mae'n rhyw fath o bolisi yn y byd iechyd/gofal dwi'n meddwl.

Cofio clywed am rywun yn ymweld â gwraig gweinidog, na wyddai neb fod GANDDI enw cyntaf, mewn cartref hen bobl â'r staff yn dweud "Tyd wan Lisi, gin ti fisitors". Swnio'n chwithig iawn.

 

Ond cofio mynd i Ysbyty Dewi Sant i gael babi a'r nyrsys i gyd yn fy ngalw'n "ti" er bod lot ohonyn nhw'n iau na mi. Roedd hynny'n teimlo'n od ond ar ôl rhyw ddiwrnod ro'n i'n cael symud i Ysbyty Bryn Beryl lle'r oedd rhai o'r nyrsys yn dweud "chi" ac wedyn roedd hynny'n swnio'n dra ffurfiol. Mater o arfer yw e lot, mae'n siwr.

 

  

On 3 Mai 2012, at 12:25, Ann Corkett wrote:



 

 

‘Rwy’n meddwl y byddwn i wedi methu ymatal rhag dweud rhywbeth.  ‘Rwyf newydd ddweud wrth y gwasanaeth trallwyso “this is a small matter but I’m sure it could be addressed(!) in training” a phwyso “Send” cyn meddwl gofyn am holiadur yn Gymraeg hefyd.

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 03 May 2012 12:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: y cywair anffurfiol

 

Ella'i fod o wedi'i ddysgu i neud hynny 'i wneud i ti deimlo'n gartrefol'! Pan aethon ni i drefnu angladd fy nhad roedd y trefnwr yn mynnu ei alw'n Dad (where do you want Dad to ... etc) - am yr un rheswm am wn i ond roedden ni'n ei gael yn bur ych a pych

Anna

2012/5/3 Ann Corkett <[log in to unmask]>

'Roeddwn i'n methu credu, ychydig wythnosau'n ol wrth fynd i roi gwaed.  Un
o'r nyrsys, dyn, yn fy ngalw i "Elizabeth" (f'enw cyntaf) drosodd a
throsodd, yn hollol ddiangen.  Efallai mod i wedi trio'n rhy galed i beidio
a bod yn gas.  Mi ddywedais, "At my age, I don't feel it's necessary to use
first names at all, but if I did I would be 'Ann'.  Aeth ymlaen i'n ngalw
i'n "Ann" yn ddibaid.

Wrth feddwl, nid wyf eto wedi llenwi'r holiadur bodlonrwydd a gefais dros y
We wedyn ...

Ann


-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eluned Mai
Sent: 03 May 2012 11:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: y cywair anffurfiol

Dyma sy'n cael ei argymell ym maes pobl ag anableddau dysgu hefyd -
mai defnyddio 'chi' sydd orau wrth eu cyfarch, o ran parch.

2012/5/3 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
>
>
>
>
> Yn f’oed i, ‘doeddwn i ddim yn hoffi mentro rhoi barn, ond rhaid dweud yr
> oedd  “gyda ti” yn swnio fel “siarad i lawr” a’r bobl ifainc.
>
> Ann
>
> ________________________________
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Saunders, Tim
> Sent: 03 May 2012 10:56
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: y cywair anffurfiol
>
>
>
> Cefais argraff gyda rhai yng nghanol yr arddegau fod cael eu galw yn 'ti'
a
> gorfod ateb gyda 'chi' yn gallu bod fel tân ar groen weithiau. Cyngor y
> staff priodol oedd defnyddio 'chi' mewn tafelenni ayyb, a dyna a wnes.
Ymhen
> blwyddyn neu ddau, fodd bynnag, mae'n debyg y bydd llawer ohonynt yn galw
> 'ti' ar bawb.
>
>
>
> Yn iach,
>
>
>
>
>
>
>
> Tim
>
>
>
>
>
> Tim Saunders
>
> Cyfieithydd Translator
>
> Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County
Borough
> Council
>
>
>
> ________________________________
>
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
> Sent: 03 May 2012 10:18
> To: [log in to unmask]
> Subject: y cywair anffurfiol
>
> Bore Da
>
>
>
> Dim ond eisiau holi eich barn ynghylch y cywair anffurfiol.
>
>
>
> Mae gen i daflen sydd wedi’i hanelu at bobl ifanc mewn gofal. Ydi hi’n
> dderbyniol dweud, er enghraifft, ‘gyda ti’ yn lle ‘gyda thi’ mewn
cyd-destun
> felly?
>
>
>
> Rhian
>
>
>
> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may
> contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and
> should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or
> authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or
> disclose it to anyone else. If you have received this transmission in
error
> please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be
> subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant
> legislation
>
> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>
>
>
> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd
> sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei
thrin
> yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r
> awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio
neu'i
> defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar
gam
> a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd
> cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth
> berthnasol.
>
> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
>
>