Dwi'n cytuno bod bolgi'n awgrymu bod yn farus ond ella bod y cyfniad a crach yn creu arlliw ystyr ychydig yn wahanol.

Anna

2012/5/1 Melanie Davies <[log in to unmask]>
Yn bersonol, mae bolgi'n golygu rhywun sy'n farus ac yn bwyta'n ddi-stop ac mae foodie yn golygu rhywun sy'n frwdfrydig ynghylch bwyd. Ond efallai fy mod i'n anghywir!!

Melanie

-----Original Message----- From: Wyn Hobson
Sent: Tuesday, May 01, 2012 1:25 PM
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: food snobs?


Parthed 'foodies', meddai Anna:

Crachfolgwn?

Pe bawn i wedi clywed y term hwn wrth gyfieithu ar y pryd (ac wedi deall y cyd-destun yn ddigon buan), mae'n debyg mai'r cyfieithiad y buaswn i wedi ei lefaru — o dan bwysau'r foment — fuasai 'food snobs'.

Tybed a fuasai 'crachfolgwn' yn gyfieithiad derbyniol ar gyfer y term hwnnw? Buasai'n biti gorfod rhoi bathiad mor rywiog o'r neilltu!

Hwyl,

Wyn