Diolch Rhian - os ydy'r term yna wedi ei ddefnyddio eisoes, yna gwell cadw ato. Gan fy mod yn hŷn na 21, dydw i erioed wedi bod i barti swigod, ond mae'n debyg mai gweithgaredd mewn clwb nos, neu yn yr achos hwn, gŵyl ieuenctid ydyw lle maen nhw'n neidio i bwll neu bydew yn llawn swigod/ewyn/foam gyda rhialtwch a chwerthin mawr yn dilyn. ________________________________ From: Rhian Jones <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Thursday, 24 May 2012, 19:48 Subject: Re: foam party Dw i’n meddwl mai parti swigod maen nhw wedi bod yn ei gael ym Maes B. Rhian From: Meinir Pierce Jones Sent: Thursday, May 24, 2012 7:23 PM To: [log in to unmask] Subject: Re: foam party Mae rhai pobol yn y canolbarth yn defnyddio 'woblen', am foam dwi'n credu. ----- Original Message ----- >From: Sian Reeves >To: [log in to unmask] >Sent: Thursday, May 24, 2012 6:12 PM >Subject: foam party > >Dwi ddim yn hoff iawn o 'barti ewyn' - unrhyw awgrymiadau os gwelwch yn dda? >Mae hwn ar gyfer poster hyrwyddo gŵyl i bobl ifanc, mae'r 'foam party' yn un o'r atyniadau. > >diolch > >Siân