Print

Print


Diolch am y cynnig, ond dyna'r union ddolen y gwnes i ei defnyddio, wedyn dewis Windows 2010 i gyfateb a'r system sydd gen i. Rydw i wedi treulio tua awr a hanner bore 'ma yn trio gwneud hyn, yn lle gwneud gwaith cyfieithu, felly'n dechrau colli amynedd! Does dim o'i le ar fy nghyfrifiadur hyd y gwn i - mae'n hollol newydd, ac mi wnes i ddiffodd y mur cadarn am ychydig rhag ofn mai dyna oedd yn atal y rhaglen rhag ymsefydlu yn Word.
 

 
Cathrin Alwen Llywelyn
Cyfieithydd / Translator
Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru /
Full Member of The Association of Welsh Translators and Interpreters
1, Pentir Caspian/Caspian Point, Pierhead Street, Bae Caerdydd/Cardiff Bay CF10 4DQ
07877325954 / 02920 444051
[log in to unmask]


-----Original Message-----
From: Neil Shadrach <[log in to unmask]>
To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG <[log in to unmask]>
Sent: Wed, 16 May 2012 11:55
Subject: Re: Rhyngwyneb Cymraeg Windows 7 a'r Gronfa Genedlaethol o Dermau

Gallai'r union fersiwn o Word/Microsoft Office fod yn berthnasol yn ogystal a'r fersiwn o Windows.
Mae pecynnau ar gyfer sawl fersiwn ar gael fan hyn:
http://office.microsoft.com/en-us/downloads/office-language-interface-pack-lip-downloads-HA001113350.aspx 

( Nid wyf yn gyfarwydd a'r anhghenion fy hunan )

2012/5/16 Meg Elis <[log in to unmask]>
Dwi'n cael y broblem hon hefyd
Sent from my BlackBerry® wireless device

From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date: Wed, 16 May 2012 11:16:27 +0100
ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Subject: Re: Rhyngwyneb Cymraeg Windows 7 a'r Gronfa Genedlaethol o Dermau

Dwi'n meddwl dy fod ti angen cael rhywun sy'n deall cyfrifiaduron i edrych ar dy gyfrifiadur.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Cathrin Alwen Llywelyn
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, May 16, 2012 10:37 AM
Subject: Rhyngwyneb Cymraeg Windows 7 a'r Gronfa Genedlaethol o Dermau

Tybed a all rhywun fy helpu?
 
Rydw i wedi lawrlwytho'r rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer Windows 7, ac mae i weld yn gweithio tan i mi agor Word. Wrth wneud hynny, mae'r pecyn fel pe bai'n llwytho, ond wedyn mae'n diflannu, a Word ddim yn agor.
Wedyn wrth drio eto, rwy'n cael hysbysiad sy'n argymell agor word mewn modd diogel. Rwyf wedi dewis gwneud hynny, ac wedi dewis fel arall. O ddewis gwneud hynny, mae'r rhaglen yn Saesneg a'r holl fotymau gwirio sillafu ac ati heb fod yn gweithio. O ddewis fel arall, does dim byd yn digwydd!
 
Rwy'n arbennig o awyddus i gael gwirydd sillafu Microsoft, gan y bydd modd i mi ei ddefnyddio yn Deja Vu. O'r hyn yr ydw i'n ei ddeall, does dim modd defnyddio Cysill o fewn y rhaglen. Byddai'n well gen i beidio gorfod copio a gludo segmentau un ar y tro o Deja Vu i Cysill er mwyn eu cywiro.
 
Hefyd, oes unrhyw un yn gwybod ym mha fformat y mae angen i mi lawrlwytho Termiaduron y Gronfa Genedlaethol o Dermau, er mwyn iddyn nhw weithio yn Deja Vu?
 
Cathrin

 
Cathrin Alwen Llywelyn
Cyfieithydd / Translator
Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru /
Full Member of The Association of Welsh Translators and Interpreters
1, Pentir Caspian/Caspian Point, Pierhead Street, Bae Caerdydd/Cardiff Bay CF10 4DQ
07877325954 / 02920 444051