Diolch am y cynnig, ond dyna'r union ddolen y gwnes i ei defnyddio, wedyn dewis Windows 2010 i gyfateb a'r system sydd gen i. Rydw i wedi treulio tua awr a hanner bore 'ma yn trio gwneud hyn, yn lle gwneud gwaith cyfieithu, felly'n dechrau colli amynedd! Does dim o'i le ar fy nghyfrifiadur hyd y gwn i - mae'n hollol newydd, ac mi wnes i ddiffodd y mur cadarn am ychydig rhag ofn mai dyna oedd yn atal y rhaglen rhag ymsefydlu yn Word. Cathrin Alwen Llywelyn Cyfieithydd / Translator Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru / Full Member of The Association of Welsh Translators and Interpreters 1, Pentir Caspian/Caspian Point, Pierhead Street, Bae Caerdydd/Cardiff Bay CF10 4DQ 07877325954 / 02920 444051 [log in to unmask] -----Original Message----- From: Neil Shadrach <[log in to unmask]> To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG <[log in to unmask]> Sent: Wed, 16 May 2012 11:55 Subject: Re: Rhyngwyneb Cymraeg Windows 7 a'r Gronfa Genedlaethol o Dermau Gallai'r union fersiwn o Word/Microsoft Office fod yn berthnasol yn ogystal a'r fersiwn o Windows. Mae pecynnau ar gyfer sawl fersiwn ar gael fan hyn: http://office.microsoft.com/en-us/downloads/office-language-interface-pack-lip-downloads-HA001113350.aspx ( Nid wyf yn gyfarwydd a'r anhghenion fy hunan ) 2012/5/16 Meg Elis <[log in to unmask]> Dwi'n cael y broblem hon hefyd Sent from my BlackBerry® wireless device From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Date: Wed, 16 May 2012 11:16:27 +0100 To: <[log in to unmask]> ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> Subject: Re: Rhyngwyneb Cymraeg Windows 7 a'r Gronfa Genedlaethol o Dermau Dwi'n meddwl dy fod ti angen cael rhywun sy'n deall cyfrifiaduron i edrych ar dy gyfrifiadur. ----- Original Message ----- From: Cathrin Alwen Llywelyn To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, May 16, 2012 10:37 AM Subject: Rhyngwyneb Cymraeg Windows 7 a'r Gronfa Genedlaethol o Dermau Tybed a all rhywun fy helpu? Rydw i wedi lawrlwytho'r rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer Windows 7, ac mae i weld yn gweithio tan i mi agor Word. Wrth wneud hynny, mae'r pecyn fel pe bai'n llwytho, ond wedyn mae'n diflannu, a Word ddim yn agor. Wedyn wrth drio eto, rwy'n cael hysbysiad sy'n argymell agor word mewn modd diogel. Rwyf wedi dewis gwneud hynny, ac wedi dewis fel arall. O ddewis gwneud hynny, mae'r rhaglen yn Saesneg a'r holl fotymau gwirio sillafu ac ati heb fod yn gweithio. O ddewis fel arall, does dim byd yn digwydd! Rwy'n arbennig o awyddus i gael gwirydd sillafu Microsoft, gan y bydd modd i mi ei ddefnyddio yn Deja Vu. O'r hyn yr ydw i'n ei ddeall, does dim modd defnyddio Cysill o fewn y rhaglen. Byddai'n well gen i beidio gorfod copio a gludo segmentau un ar y tro o Deja Vu i Cysill er mwyn eu cywiro. Hefyd, oes unrhyw un yn gwybod ym mha fformat y mae angen i mi lawrlwytho Termiaduron y Gronfa Genedlaethol o Dermau, er mwyn iddyn nhw weithio yn Deja Vu? Cathrin Cathrin Alwen Llywelyn Cyfieithydd / Translator Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru / Full Member of The Association of Welsh Translators and Interpreters 1, Pentir Caspian/Caspian Point, Pierhead Street, Bae Caerdydd/Cardiff Bay CF10 4DQ 07877325954 / 02920 444051 [log in to unmask]