Tybed a all rhywun fy
helpu?
Rydw i wedi lawrlwytho'r rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer Windows 7, ac mae i
weld yn gweithio tan i mi agor Word. Wrth wneud hynny, mae'r pecyn fel pe
bai'n llwytho, ond wedyn mae'n diflannu, a Word ddim yn agor.
Wedyn wrth drio eto, rwy'n cael hysbysiad sy'n argymell agor word mewn
modd diogel. Rwyf wedi dewis gwneud hynny, ac wedi dewis fel arall. O ddewis
gwneud hynny, mae'r rhaglen yn Saesneg a'r holl fotymau gwirio sillafu ac ati
heb fod yn gweithio. O ddewis fel arall, does dim byd yn digwydd!
Rwy'n arbennig o awyddus i gael gwirydd sillafu Microsoft, gan y bydd
modd i mi ei ddefnyddio yn Deja Vu. O'r hyn yr ydw i'n ei ddeall, does dim
modd defnyddio Cysill o fewn y rhaglen. Byddai'n well gen i beidio gorfod
copio a gludo segmentau un ar y tro o Deja Vu i Cysill er mwyn eu cywiro.
Hefyd, oes unrhyw un yn gwybod ym mha fformat y mae angen i
mi lawrlwytho Termiaduron y Gronfa Genedlaethol o Dermau, er mwyn iddyn
nhw weithio yn Deja Vu?
Cathrin
Cathrin Alwen Llywelyn
Cyfieithydd /
Translator
Aelod Cyflawn o
Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru /
Full Member of The
Association of Welsh Translators and Interpreters
1,
Pentir Caspian/Caspian Point, Pierhead Street, Bae Caerdydd/Cardiff Bay
CF10
4DQ
07877325954 / 02920
444051