Gallai'r union fersiwn o Word/Microsoft Office fod yn berthnasol yn ogystal a'r fersiwn o Windows. Mae pecynnau ar gyfer sawl fersiwn ar gael fan hyn: http://office.microsoft.com/en-us/downloads/office-language-interface-pack-lip-downloads-HA001113350.aspx ( Nid wyf yn gyfarwydd a'r anhghenion fy hunan ) 2012/5/16 Meg Elis <[log in to unmask]> > ** > Dwi'n cael y broblem hon hefyd > Sent from my BlackBerry® wireless device > ------------------------------ > *From: * Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > *Sender: * Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary <[log in to unmask]> > *Date: *Wed, 16 May 2012 11:16:27 +0100 > *To: *<[log in to unmask]> > *ReplyTo: * Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary <[log in to unmask]> > *Subject: *Re: Rhyngwyneb Cymraeg Windows 7 a'r Gronfa Genedlaethol o > Dermau > > Dwi'n meddwl dy fod ti angen cael rhywun sy'n deall cyfrifiaduron i edrych > ar dy gyfrifiadur. > > ----- Original Message ----- > *From:* Cathrin Alwen Llywelyn <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Wednesday, May 16, 2012 10:37 AM > *Subject:* Rhyngwyneb Cymraeg Windows 7 a'r Gronfa Genedlaethol o Dermau > > Tybed a all rhywun fy helpu? > > Rydw i wedi lawrlwytho'r rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer Windows 7, ac mae i > weld yn gweithio tan i mi agor Word. Wrth wneud hynny, mae'r pecyn fel pe > bai'n llwytho, ond wedyn mae'n diflannu, a Word ddim yn agor. > Wedyn wrth drio eto, rwy'n cael hysbysiad sy'n argymell agor word mewn > modd diogel. Rwyf wedi dewis gwneud hynny, ac wedi dewis fel arall. O > ddewis gwneud hynny, mae'r rhaglen yn Saesneg a'r holl fotymau gwirio > sillafu ac ati heb fod yn gweithio. O ddewis fel arall, does dim byd yn > digwydd! > > Rwy'n arbennig o awyddus i gael gwirydd sillafu Microsoft, gan y bydd modd > i mi ei ddefnyddio yn Deja Vu. O'r hyn yr ydw i'n ei ddeall, does dim modd > defnyddio Cysill o fewn y rhaglen. Byddai'n well gen i beidio gorfod copio > a gludo segmentau un ar y tro o Deja Vu i Cysill er mwyn eu cywiro. > > Hefyd, oes unrhyw un yn gwybod ym mha fformat y mae angen i mi lawrlwytho > Termiaduron y Gronfa Genedlaethol o Dermau, er mwyn iddyn nhw weithio yn > Deja Vu? > > Cathrin > > > *Cathrin Alwen Llywelyn * > Cyfieithydd / Translator > Aelod Cyflawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru / > Full Member of The Association of Welsh Translators and Interpreters* * > 1, Pentir Caspian/Caspian Point, Pierhead Street, Bae Caerdydd/Cardiff Bay CF10 > 4DQ > 07877325954 / 02920 444051 > [log in to unmask] > >