Cytuno. Ac, yn y cyswllt hwn (NHGCH) byddwn yn rhoi ITC
ac yn dweud dim.
> Date: Tue, 8 May 2012 15:11:13 +0100
>
From:
[log in to unmask]> Subject:
ATB: NHGCH
> To:
[log in to unmask]>
>
Mae'n anodd iawn os nad yn amhosibl adlewyrchu gwallau sydd yn y
gwreiddiol
> mewn cyfieithiad - er enghraifft, sut mae rhywun
yn cyfleu yn y Saesneg bod
> y Gymraeg yn llawn camdreiglo?
Mae'n anodd iawn hefyd adlewyrchu blerwch o
> ran cystrawen
oherwydd ni fyddai'r cyfieithiad o reidrwydd yn dangos pa
mor
> ddifrifol (neu beidio) yw'r blerwch hwnnw. Dw i'n meddwl
mai'r unig ffordd
> gall o ddelio ā'r peth yw rhoi nodyn
gyda'r gwaith a gadael i'r cwsmer
> benderfynu beth i'w
wneud.
> Carolyn
>
> -----Neges
Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From:
Discussion of Welsh language technical terminology and
>
vocabulary [mailto:
[log in to unmask]] Ar ran Ann
Corkett
> Anfonwyd/Sent: 08 Mai 2012 15:01
>
At/To:
[log in to unmask]>
Pwnc/Subject: Re: NHGCH
>
>
Flynyddoedd yn ol, cyfieithiais bapurau gradd ar hanes celf o'r
Gymraeg i'r
> Saesneg, am sawl blwyddyn. Cefais y gwaith trwy
Wil Petherbridge, ac mi
> wnaeth f'annog i fod yn weddol
caredig, gan fod yr ymgeiswyr eisoes yn
> ymladd yn erbyn
anawsterau trwy wneud y papurau yn Gymraeg o gwbl. Nid wyf
>
yn datgan barn, dimond ffaith.
>
>
Ann
>
>
>
>
-----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
> [mailto:
[log in to unmask]] On Behalf Of
Sian Roberts
> Sent: 08 May 2012 14:55
>
To:
[log in to unmask]>
Subject: Re: NHGCH
>
> Mae hwn yn
gwestiwn dyrys.
> Mae rhywun yn awyddus i wneud ei orau dros
yr ymgeisydd, wrth gwrs,
> ond mae rhywun
am sicrhau tegwch i ymgeiswyr eraill a'r
arholwr/
> darpar gyflogwr
hefyd.
>
> Wnes i gyfieithu traethawd
gradd rhyw dro ac roeddwn i'n meddwl
tybed
> a oedd rhyw ffordd o awgrymu nad
oedd yr ymgeisydd yn gallu sillafu'n
> dda
iawn a bod amryw o anghysondebau eraill yn ei waith. Ond,
wrth
> gwrs, roedd wedi gwneud ymdrech i
wneud y gwaith yn Gymraeg ac mae'n
> eitha
posibl y byddai'n dod drosodd yn well yn
Saesneg.
>
> Erbyn hyn, mae'n
gyfreithiwr llwyddiannus iawn - felly mae'n siwr
na
> wnes i ormod o gam ag
e!!
>
>
Siān
>
>
>
>
On 8 Mai 2012, at 14:10, Geraint Lovgreen
wrote:
>
> > Pwy bynnag ydi'r
ymgeisydd, dydi o neu hi ddim yn haeddu'r
swydd
> > beth bynnag am sgwennu cais
mor annealladwy!
> >
> > Mae hyn yn codi'r
cwestiwn dyrys i ba raddau y mae cyfieithydd
i
> > fod i wella rhywbeth fel ffurflen
gais neu bapur arholiad.
> >
> > Geraint
>
>
> > ----- Original Message ----- From: "Meinir
Thomas"
> > <
[log in to unmask]>
>
> To: <
[log in to unmask]>
>
> Sent: Tuesday, May 08, 2012 12:48 PM
> > Subject: Re:
NHGCH
> >
> >
> > Ooooooo, wi'n gweld
nawr! Wel, dyna dwp fues i! Er, naeth ein
>
> Swyddog Iaith ddim sylwi chwaith! Gan ei bod hi'n gyn athrawes,
nes
> > i holi hi am yr acronym yn
gyntaf oll. Y ddwy ohonom wedi bod yn
>
> crafu'n pennau!
> >
> > Diolch Catrin a Huw.
:)
> >
> > Cofion gorau,
> >
> >
Meinir