Mae na ambell un sy wedi magu safle geiria, toes, fath a BBC a'r rhai ti di enwi. Ond mae eraill yn frycha. Digon hawdd son mewn cyfarfod am AONBs (sydd fel gair) ond pwy feddylia fyth am drio rhoi cynnig ar ddeud AOHNEau - curo cefn fasa'r unig ymateb tebygol i hynna; a WAG gynt - gair bach twt a del yn Saesneg ond doedd LlCC ddim yn hawdd iawn ei ddeud.

Anna

2012/5/8 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Clywch clywch. Pam na fedran ni'm derbyn nad ydi'r Gymraeg yn iaith addas ar gyfer acronymau. Does dim rhaid efelychu'r Saesneg ym mhob peth.
 
(er, mae UCAC yn un prin sy'n gweithio) (a PAWB)
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, May 08, 2012 3:56 PM
Subject: Re: ATB: NHGCH

Oni fyddai'n well peidio a threiglo acronymau? Maen nhw'n ddigon o dan ar ein croen ni fel mae hi heb son am eu gwenud yn waeth fyth.

Anna

2012/5/8 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Heb gymorth y Cylch, dwi'm yn meddwl y byddwn i byth wedi dychmygu mai ITC oedd NHGCH. Dwi'n amau y byswn wedi ei adael fel NHGCH.
 
Mae TGCh yn ddealladwy erbyn hyn, byddai TGCH yn weddol ddealladwy, NhGCh ar binsh ond NHGCH ...???  Ac onid ar ôl y gair "mewn..." oedd o yn y dyfyniad cyntaf felly ddim yn galw am dreiglad trwynol beth bynnag??!!?
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Sian Jones
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Tuesday, May 08, 2012 3:17 PM
Subject: Re: ATB: NHGCH

Cytuno. Ac, yn y cyswllt hwn (NHGCH) byddwn yn rhoi ITC ac yn dweud dim. 

> Date: Tue, 8 May 2012 15:11:13 +0100
> From: [log in to unmask]
> Subject: ATB: NHGCH
> To: [log in to unmask]
>
> Mae'n anodd iawn os nad yn amhosibl adlewyrchu gwallau sydd yn y gwreiddiol
> mewn cyfieithiad - er enghraifft, sut mae rhywun yn cyfleu yn y Saesneg bod
> y Gymraeg yn llawn camdreiglo? Mae'n anodd iawn hefyd adlewyrchu blerwch o
> ran cystrawen oherwydd ni fyddai'r cyfieithiad o reidrwydd yn dangos pa mor
> ddifrifol (neu beidio) yw'r blerwch hwnnw. Dw i'n meddwl mai'r unig ffordd
> gall o ddelio â'r peth yw rhoi nodyn gyda'r gwaith a gadael i'r cwsmer
> benderfynu beth i'w wneud.
> Carolyn
>
> -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett
> Anfonwyd/Sent: 08 Mai 2012 15:01
> At/To: [log in to unmask]
> Pwnc/Subject: Re: NHGCH
>
> Flynyddoedd yn ol, cyfieithiais bapurau gradd ar hanes celf o'r Gymraeg i'r
> Saesneg, am sawl blwyddyn. Cefais y gwaith trwy Wil Petherbridge, ac mi
> wnaeth f'annog i fod yn weddol caredig, gan fod yr ymgeiswyr eisoes yn
> ymladd yn erbyn anawsterau trwy wneud y papurau yn Gymraeg o gwbl. Nid wyf
> yn datgan barn, dimond ffaith.
>
> Ann
>
>
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 08 May 2012 14:55
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: NHGCH
>
> Mae hwn yn gwestiwn dyrys.
> Mae rhywun yn awyddus i wneud ei orau dros yr ymgeisydd, wrth gwrs,
> ond mae rhywun am sicrhau tegwch i ymgeiswyr eraill a'r arholwr/
> darpar gyflogwr hefyd.
>
> Wnes i gyfieithu traethawd gradd rhyw dro ac roeddwn i'n meddwl tybed
> a oedd rhyw ffordd o awgrymu nad oedd yr ymgeisydd yn gallu sillafu'n
> dda iawn a bod amryw o anghysondebau eraill yn ei waith. Ond, wrth
> gwrs, roedd wedi gwneud ymdrech i wneud y gwaith yn Gymraeg ac mae'n
> eitha posibl y byddai'n dod drosodd yn well yn Saesneg.
>
> Erbyn hyn, mae'n gyfreithiwr llwyddiannus iawn - felly mae'n siwr na
> wnes i ormod o gam ag e!!
>
> Siân
>
>
>
> On 8 Mai 2012, at 14:10, Geraint Lovgreen wrote:
>
> > Pwy bynnag ydi'r ymgeisydd, dydi o neu hi ddim yn haeddu'r swydd
> > beth bynnag am sgwennu cais mor annealladwy!
> >
> > Mae hyn yn codi'r cwestiwn dyrys i ba raddau y mae cyfieithydd i
> > fod i wella rhywbeth fel ffurflen gais neu bapur arholiad.
> >
> > Geraint
> >
> > ----- Original Message ----- From: "Meinir Thomas"
> > <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Tuesday, May 08, 2012 12:48 PM
> > Subject: Re: NHGCH
> >
> >
> > Ooooooo, wi'n gweld nawr! Wel, dyna dwp fues i! Er, naeth ein
> > Swyddog Iaith ddim sylwi chwaith! Gan ei bod hi'n gyn athrawes, nes
> > i holi hi am yr acronym yn gyntaf oll. Y ddwy ohonom wedi bod yn
> > crafu'n pennau!
> >
> > Diolch Catrin a Huw. :)
> >
> > Cofion gorau,
> >
> > Meinir