Cytuno. Ac, yn y cyswllt hwn (NHGCH) byddwn yn rhoi ITC ac yn
dweud dim.
> Date: Tue, 8 May 2012 15:11:13 +0100
> From:
[log in to unmask]> Subject: ATB:
NHGCH
> To:
[log in to unmask]>
>
Mae'n anodd iawn os nad yn amhosibl adlewyrchu gwallau sydd yn y
gwreiddiol
> mewn cyfieithiad - er enghraifft, sut mae rhywun yn
cyfleu yn y Saesneg bod
> y Gymraeg yn llawn camdreiglo? Mae'n anodd
iawn hefyd adlewyrchu blerwch o
> ran cystrawen oherwydd ni fyddai'r
cyfieithiad o reidrwydd yn dangos pa mor
> ddifrifol (neu beidio)
yw'r blerwch hwnnw. Dw i'n meddwl mai'r unig ffordd
> gall o ddelio
â'r peth yw rhoi nodyn gyda'r gwaith a gadael i'r cwsmer
>
benderfynu beth i'w wneud.
> Carolyn
>
> -----Neges
Wreiddiol-----/-----Original Message-----
> Oddi wrth/From:
Discussion of Welsh language technical terminology and
> vocabulary
[mailto:
[log in to unmask]] Ar ran Ann
Corkett
> Anfonwyd/Sent: 08 Mai 2012 15:01
> At/To:
[log in to unmask]>
Pwnc/Subject: Re: NHGCH
>
> Flynyddoedd yn ol, cyfieithiais
bapurau gradd ar hanes celf o'r Gymraeg i'r
> Saesneg, am sawl
blwyddyn. Cefais y gwaith trwy Wil Petherbridge, ac mi
> wnaeth
f'annog i fod yn weddol caredig, gan fod yr ymgeiswyr eisoes yn
>
ymladd yn erbyn anawsterau trwy wneud y papurau yn Gymraeg o gwbl. Nid
wyf
> yn datgan barn, dimond ffaith.
>
> Ann
>
>
>
> -----Original Message-----
> From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>
[mailto:
[log in to unmask]] On Behalf Of Sian
Roberts
> Sent: 08 May 2012 14:55
> To:
[log in to unmask]> Subject: Re:
NHGCH
>
> Mae hwn yn gwestiwn dyrys.
> Mae rhywun yn
awyddus i wneud ei orau dros yr ymgeisydd, wrth gwrs,
> ond mae
rhywun am sicrhau tegwch i ymgeiswyr eraill a'r arholwr/
> darpar
gyflogwr hefyd.
>
> Wnes i gyfieithu traethawd gradd rhyw dro
ac roeddwn i'n meddwl tybed
> a oedd rhyw ffordd o awgrymu nad oedd
yr ymgeisydd yn gallu sillafu'n
> dda iawn a bod amryw o
anghysondebau eraill yn ei waith. Ond, wrth
> gwrs, roedd wedi
gwneud ymdrech i wneud y gwaith yn Gymraeg ac mae'n
> eitha posibl
y byddai'n dod drosodd yn well yn Saesneg.
>
> Erbyn hyn,
mae'n gyfreithiwr llwyddiannus iawn - felly mae'n siwr na
> wnes i
ormod o gam ag e!!
>
> Siân
>
>
>
> On 8 Mai 2012, at 14:10, Geraint Lovgreen wrote:
>
>
> Pwy bynnag ydi'r ymgeisydd, dydi o neu hi ddim yn haeddu'r swydd
> > beth bynnag am sgwennu cais mor annealladwy!
>
>
> > Mae hyn yn codi'r cwestiwn dyrys i ba raddau y mae
cyfieithydd i
> > fod i wella rhywbeth fel ffurflen gais neu
bapur arholiad.
> >
> > Geraint
> >
>
> ----- Original Message ----- From: "Meinir Thomas"
> >
<
[log in to unmask]>
>
> To: <
[log in to unmask]>
> >
Sent: Tuesday, May 08, 2012 12:48 PM
> > Subject: Re:
NHGCH
> >
> >
> > Ooooooo, wi'n gweld nawr!
Wel, dyna dwp fues i! Er, naeth ein
> > Swyddog Iaith ddim sylwi
chwaith! Gan ei bod hi'n gyn athrawes, nes
> > i holi hi am yr
acronym yn gyntaf oll. Y ddwy ohonom wedi bod yn
> > crafu'n
pennau!
> >
> > Diolch Catrin a Huw. :)
>
>
> > Cofion gorau,
> >
> >
Meinir