Heb gymorth y Cylch, dwi'm yn meddwl y byddwn i byth wedi dychmygu mai ITC oedd NHGCH. Dwi'n amau y byswn wedi ei adael fel NHGCH. Mae TGCh yn ddealladwy erbyn hyn, byddai TGCH yn weddol ddealladwy, NhGCh ar binsh ond NHGCH ...??? Ac onid ar ôl y gair "mewn..." oedd o yn y dyfyniad cyntaf felly ddim yn galw am dreiglad trwynol beth bynnag??!!? Geraint ----- Original Message ----- From: Sian Jones To: [log in to unmask] Sent: Tuesday, May 08, 2012 3:17 PM Subject: Re: ATB: NHGCH Cytuno. Ac, yn y cyswllt hwn (NHGCH) byddwn yn rhoi ITC ac yn dweud dim. > Date: Tue, 8 May 2012 15:11:13 +0100 > From: [log in to unmask] > Subject: ATB: NHGCH > To: [log in to unmask] > > Mae'n anodd iawn os nad yn amhosibl adlewyrchu gwallau sydd yn y gwreiddiol > mewn cyfieithiad - er enghraifft, sut mae rhywun yn cyfleu yn y Saesneg bod > y Gymraeg yn llawn camdreiglo? Mae'n anodd iawn hefyd adlewyrchu blerwch o > ran cystrawen oherwydd ni fyddai'r cyfieithiad o reidrwydd yn dangos pa mor > ddifrifol (neu beidio) yw'r blerwch hwnnw. Dw i'n meddwl mai'r unig ffordd > gall o ddelio â'r peth yw rhoi nodyn gyda'r gwaith a gadael i'r cwsmer > benderfynu beth i'w wneud. > Carolyn > > -----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message----- > Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Ann Corkett > Anfonwyd/Sent: 08 Mai 2012 15:01 > At/To: [log in to unmask] > Pwnc/Subject: Re: NHGCH > > Flynyddoedd yn ol, cyfieithiais bapurau gradd ar hanes celf o'r Gymraeg i'r > Saesneg, am sawl blwyddyn. Cefais y gwaith trwy Wil Petherbridge, ac mi > wnaeth f'annog i fod yn weddol caredig, gan fod yr ymgeiswyr eisoes yn > ymladd yn erbyn anawsterau trwy wneud y papurau yn Gymraeg o gwbl. Nid wyf > yn datgan barn, dimond ffaith. > > Ann > > > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts > Sent: 08 May 2012 14:55 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: NHGCH > > Mae hwn yn gwestiwn dyrys. > Mae rhywun yn awyddus i wneud ei orau dros yr ymgeisydd, wrth gwrs, > ond mae rhywun am sicrhau tegwch i ymgeiswyr eraill a'r arholwr/ > darpar gyflogwr hefyd. > > Wnes i gyfieithu traethawd gradd rhyw dro ac roeddwn i'n meddwl tybed > a oedd rhyw ffordd o awgrymu nad oedd yr ymgeisydd yn gallu sillafu'n > dda iawn a bod amryw o anghysondebau eraill yn ei waith. Ond, wrth > gwrs, roedd wedi gwneud ymdrech i wneud y gwaith yn Gymraeg ac mae'n > eitha posibl y byddai'n dod drosodd yn well yn Saesneg. > > Erbyn hyn, mae'n gyfreithiwr llwyddiannus iawn - felly mae'n siwr na > wnes i ormod o gam ag e!! > > Siân > > > > On 8 Mai 2012, at 14:10, Geraint Lovgreen wrote: > > > Pwy bynnag ydi'r ymgeisydd, dydi o neu hi ddim yn haeddu'r swydd > > beth bynnag am sgwennu cais mor annealladwy! > > > > Mae hyn yn codi'r cwestiwn dyrys i ba raddau y mae cyfieithydd i > > fod i wella rhywbeth fel ffurflen gais neu bapur arholiad. > > > > Geraint > > > > ----- Original Message ----- From: "Meinir Thomas" > > <[log in to unmask]> > > To: <[log in to unmask]> > > Sent: Tuesday, May 08, 2012 12:48 PM > > Subject: Re: NHGCH > > > > > > Ooooooo, wi'n gweld nawr! Wel, dyna dwp fues i! Er, naeth ein > > Swyddog Iaith ddim sylwi chwaith! Gan ei bod hi'n gyn athrawes, nes > > i holi hi am yr acronym yn gyntaf oll. Y ddwy ohonom wedi bod yn > > crafu'n pennau! > > > > Diolch Catrin a Huw. :) > > > > Cofion gorau, > > > > Meinir