Hapus iawn gydag awgrym Andrew fod cydweithio yn digwydd rhwng Geiriadur Prifysgol Cymru a ninnau - mae hyn yn hen freuddwyd rhyngom, a gobeithio fod pethau gam yn nes nawr fod Geiriadur yr Academi ar gael ar ffurf ddigidol.

Hoffwn gywiro camargraff sydd gan rai efallai fod y gwaith wedi dod i ben ac nad oes parhad iddo. Holl fwriad digido'r Geiriadur o'r cychwyn oedd paratoi copi meistr glân i fod yn sail i holl waith datblygu/cywiro/helaethu pellach. Ffordd o roi cynnyrch defnyddiol ar gael o fewn cyrraedd y cyhoedd ar hyd y daith yw'r fersiwn digidol - nid nod ynddo'i hun. Rhoddwyd y gwaith fel yr oedd ar-lein cyn i Fwrdd yr Iaith ddod i ben rhag colli momentwm, ac er mwyn profi'r galw o du'r cyhoedd. Mae hynny, gobeithio, wedi llwyddo.

Mae'n siwr y daw cyhoeddiad yn y man o swyddfa'r Comisiynydd am y drefn i barhau gyda'r gwaith golygu a phrawfddarllen (oedd  i'w gwblhau cyn symud ymlaen i gynnwys cofnodion newydd neu ymhelaethu ar gofnodion presennol yn unol â'r cynllun gwreiddiol - ond sy'n  rhwystredigeth i'r golygyddion mae'n siwr). Y newyddion da yw fod y dechnoleg wedi'i chynllunio i hwyluso hyn a'i bod eisoes yn ei lle - dim ond disgwyl y golau gwyrdd o du'r Comisiynydd ydyn ni.

Delyth

Ysgrifennodd Saunders, Tim:
[log in to unmask]" type="cite">
Mae awgrymiadau Andrew yn gwneu pob math o synnwyr. Y ddau eiriadur hyn yw conglfaen ein gwaith beunyddiol. Yn ogystal â hyn mae statws cyfreithiol yr iaith yn gwneud cywirdeb a manylder diffiniadau geiriau ac ymadroddion yn hanfodol bwysig am y tro cyntaf ers1536.
 
Camp i ni fod yn ddiolchgar amdani oedd creu Geiriadur yr Academi, ond mae rhai sy'n gallu gweithio ar y fath raddfa arwrol yn brin. Fel y dywaid Andrew, mae llwyth o waith caib a rhaw i'w wneud bellach.
 
Yn iach,
 
 
 
Tim
 
 
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Andrew Hawke
Sent: 14 May 2012 16:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Erthygl Bruce ar 'Golwg'

Ydy, mae'n anffodus iawn fod y gwaith ar Eiriadur yr Academi heb ei orffen cyn i Fwrdd yr Iaith ddod i ben. Mae angen pedwar peth:

1) Cyllid i orffen y gwaith o drosi'r Geiriadur i'r ffurf electronig (sef y tudalennau pinc),

2) Cynnwys yr atodiadau sylweddol sydd yn y cyfrolau print yng nghorff y Geiriadur,

3) Cynnwys ychwanegiadau mwy-niferus-byth Bruce a Dafydd nad ydynt yn yr atodiadau hyd yn oed, a

4) Sicrhau parhad yr adnodd yn y tymor hir.

Gobeithio bydd modd dwyn perswâd ar y Comisiynydd Iaith y dylai ei swyddfa hi gyllido 1 a 2 (a 3, o bosibl) i orffen y gwaith a ddechreuwyd gan Fwrdd yr Iaith.

O ran 4, hoffwn awgrymu bod staff Geiriadur Prifysgol Cymru yn mynd yn gyfrifol am ddiweddaru'r Geiriadur. Mae'r adnoddau angenrheidiol gennym i ganfod geiriau newydd a'r sgiliau geiriadurol i'w cynnwys yn y llefydd priodol - a byddai'r ddau eiriadur ar eu hennill!

Gobeithio byddai modd cydweithio â staff Canolfan Bedwyr hefyd, a chynnig y ddau eiriadur ochr yn ochr i'w chwilio - a datblygiau cysylltiadau rhyngddynt efallai. Rwy'n credu y byddai Bruce a Dafydd yn ymddiried ynom i wneud y gwaith golygyddol yn iawn - a maent eisoes wedi rhoi hen slipiau'r Geiriadur i ni i'w gwarchod.

Byddai angen rhywfaint o gyllid, wrth gwrs, i gynnal y gwaith, a dod o hyd i hwnnw fydd y sialens.

Beth amdani?

Hwyl,

Andrew

--
Andrew Hawke | Golygydd Rheolaethol | Geiriadur Prifysgol Cymru, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3HH
Andrew Hawke | Managing Editor| University of Wales Dictionary of the Welsh Language, University of Wales Centre for Advanced Welsh & Celtic Studies, National Library of Wales, Aberystwyth, SY23 3HH, UK
ff./tel. +44 (0)1970 631012 | ffacs/fax: +44 (0)1970 631039 | [log in to unmask] | gwe/web: http://www.cymru.ac.uk/geiriadur/
Nid yw'r neges hon o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Prifysgol Cymru / This message does not necessarily reflect the opinion of the University of Wales


Y neges wreiddiol:
From: "Saunders, Tim" <[log in to unmask]>
Date: Fri, 11 May 2012 16:13:25 +0100
Subject: Erthygl Bruce ar 'Golwg'
Thread-Topic: Erthygl Bruce ar 'Golwg'
Thread-Index: Ac0vywkfD04EXI8oS4qIBB+i6IRtlw==
Accept-Language: en-GB, en-US
X-MS-Has-Attach:
X-MS-TNEF-Correlator:
Content-Type: multipart/alternative;
         boundary="_000_6673807877677170707474776570697074757569797880737865767_"
MIME-Version: 1.0

Gwn y byddwn ni i gyd yn rhannu siom Bruce nad yw gwaith diweddaru GyrA ar-lein yn mynd rhagddo fel y dylai. Tybed, tybed, a oes rhywbeth ymarferol y gallwm ni'i wneud i wella'r sefyllfa, neu o leiaf i liniaru'r effeithiau? Oes syniadau gan rywun?
 
 
 
 
Tim
 
 
Tim Saunders
Cyfieithydd Translator
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Rhondda Cynon Taf County Borough Council
 

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation<?xml:namespace prefix = o />

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http:// www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation

For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer

 

Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol. 

I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad





-- 
Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565

Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk

This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office. www.bangor.ac.uk