Print

Print


Fe sylwais i mod i'n gwneud yr un peth â ti Osian wrth gyfieithu cofnodion
yn ddiweddar - roeddwn i wedi rhestru'r aelodau a oedd yn bresennol heb yr
'y' h.y. Dr.....ond yn y testun ei hun, yng nghanol brawddegau wedi rhoi 'y
Dr' yn naturiol. 

 

  _____  

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Geraint
Lovgreen
Anfonwyd/Sent: 13 Ebrill 2012 13:13
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: dr / y dr - teitlau

 

I fi mae'n dibynnu ai doctor ynteu doethur ydi'r Dr yma . Wrth siarad faswn
i un ai'n deud "bydd y Doethur Blodwen Rhydderch" neu "bydd Doctor Blodwen
Rhydderch". 

 

Anghyson, ie, ond dyna ni.

 

Geraint (B.A. eitha isel)

----- Original Message ----- 

From: Osian Rhys <mailto:[log in to unmask]>  

To: [log in to unmask] 

Sent: Friday, April 13, 2012 12:47 PM

Subject: dr / y dr - teitlau

 

Pnawn da (ble'r aeth y bore?!),

 

Dydy hwn ddim yn gwestiwn termau a dweud y gwir, ond o'n i am eich holi chi
am y teitl Dr os ca i. Hynny yw meddygon a phobl gyda PhDs. Doethuriaid.
Fyddech chi'n rhoi "y" o flaen "Dr" ai peidio? Mewn brawddegau ac fel
teitlau unigol:

 

Dr Blodwen Rhydderch

Y Dr Blodwen Rhydderch

 

Bydd Dr Blodwen Rhydderch yn rhoi cyflwyniad...

 Bydd y Dr Blodwen Rhydderch yn rhoi cyflwyniad...

 

Dw i'n cyfieithu rhywbeth sy'n son am lawer ohonyn nhw, ac fe benderfynais i
jyst rhoi "Dr" i ddechrau, ond wrth fynd drwy'r ddogfen dw i'n dechre teimlo
bod angen "y Dr" wedi'r cwbl, yn enwedig yng nghanol brawddegau... Fydden ni
ddim yn meddwl ei hepgor yn "yr Athro", "y Parchedig" ac ati, felly pam
gwneud hynny ar gyfer "y Dr"? Dylanwad y Saesneg wrth gwrs, ac adlewyrchiad
o sut mae pobl yn siarad?

 

Does dim llawer iawn o wahaniaeth gen i yr un ffordd neu'r llall a dweud y
gwir ond mae angen cysondeb wrth reswm. Mae Arddulliadur Llywodraeth Cymru
yn dweud bod angen y/yr o flaen teitl neu swydd, gan roi "yr Athro" fel
enghraifft, ond yn osgoi son am Dr. Mae profiad blaenorol yn awgrymu'n gryf
wrtha i bod pobl ar lawr gwlad mewn prifysgolion, o leia, yn cyfeirio at
"Dr" heb roi "y" o'i flaen fel arfer.

 

Ro'n i'n meddwl felly yr holwn i farn aelodau'r cylch ar y mater. Dr neu'r
Dr?

 

Diolch yn fawr,

 

Osian

(B.A. a dim mwy)