Pnawn da (ble'r aeth y bore?!),

Dydy hwn ddim yn gwestiwn termau a dweud y gwir, ond o'n i am eich holi chi am y teitl Dr os ca i. Hynny yw meddygon a phobl gyda PhDs. Doethuriaid. Fyddech chi'n rhoi "y" o flaen "Dr" ai peidio? Mewn brawddegau ac fel teitlau unigol:

Dr Blodwen Rhydderch
Y Dr Blodwen Rhydderch

Bydd Dr Blodwen Rhydderch yn rhoi cyflwyniad...
 Bydd y Dr Blodwen Rhydderch yn rhoi cyflwyniad...

Dw i'n cyfieithu rhywbeth sy'n son am lawer ohonyn nhw, ac fe benderfynais i jyst rhoi "Dr" i ddechrau, ond wrth fynd drwy'r ddogfen dw i'n dechre teimlo bod angen "y Dr" wedi'r cwbl, yn enwedig yng nghanol brawddegau... Fydden ni ddim yn meddwl ei hepgor yn "yr Athro", "y Parchedig" ac ati, felly pam gwneud hynny ar gyfer "y Dr"? Dylanwad y Saesneg wrth gwrs, ac adlewyrchiad o sut mae pobl yn siarad?

Does dim llawer iawn o wahaniaeth gen i yr un ffordd neu'r llall a dweud y gwir ond mae angen cysondeb wrth reswm. Mae Arddulliadur Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen y/yr o flaen teitl neu swydd, gan roi "yr Athro" fel enghraifft, ond yn osgoi son am Dr. Mae profiad blaenorol yn awgrymu'n gryf wrtha i bod pobl ar lawr gwlad mewn prifysgolion, o leia, yn cyfeirio at "Dr" heb roi "y" o'i flaen fel arfer.

Ro'n i'n meddwl felly yr holwn i farn aelodau'r cylch ar y mater. Dr neu'r Dr?

Diolch yn fawr,

Osian
(B.A. a dim mwy)