Print

Print


Diolch yn fawr iawn, dyna gadarnhau’r pwynt felly.

 

Beryl

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 03 April 2012 12:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Helpu

 

“helpu rhn i wneud rhth” sydd yn GyrA.

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Beryl H Griffiths
Sent: 03 April 2012 11:52
To: [log in to unmask]
Subject: Helpu

 

Os gwelwch chi’n dda a wnaiff rhywun fy helpu? Mae gen i gwestiwn sydd yn fy mhoeni yn fawr ar y funud wrth ddefnyddio’r ferf helpu. Mae fy ngreddf yn dweud wrthai bod angen i ar ei ôl wrth ddweud, er enghraifft, helpu i leihau rhywbeth. Dwi’n gwybod ein bod bob amser yn ceisio cofio osgoi defnyddio’r ‘i’ fondigrybwyll, ond mi fyddai ‘helpu gweld’, ‘helpu agor’ yn taro fy nghlust i yn ddieithr iawn. Ydwi’n iawn yn meddwl mai arddodiad ydi i yn fan hyn, ac felly bod gennym hawl i’w defnyddio? Neu ydwi wedi methu’n llwyr?

 

Beryl