Os gwelwch yn dda, beth yw’r term arferol ar gyfer “digest”,
sef pan fydd tanysgrifiwr i ryw grwp fel hwn, trwy ddewis fel arfer, yn derbyn
holl negeseuon diwrnod gyda’i gilydd fel un neges unwaith y dydd? Mae
Bruce yn edrych dros waith cyfieithydd gwirfoddol sydd wedi defnyddio “llif
dyddiol”. Gwelaf “crynhoad” mewn rhai cyd-destunau yn
TermCymru, ond wn i ddim ai’r un peth yw hwnnw.
Diolch,
Ann