----- Original Message -----
Sent: Tuesday, April 03, 2012 4:35
PM
Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Helpu
Siawns nad 'rho gyfle iddo ateb' fyddai'n gywir???? Ta ydw i'n
methu rhywbeth yma?
Anna
2012/4/3 David Bullock
<[log in to unmask]>
Ie, 'cyfle i rywun wneud' heb yr arddodiad sy'n fwya
cyfarwydd yn bendant.
Ond dwi ddim yn credu y byddai dim byd o'i le petai
rhywun yn dweud
Rho gyfle i ateb iddo fe, wnei di?
A dweud y
gwir, allech chi ddim dweud 'Rho gyfle ateb iddo fe, wnei di?'
felly ydy
hynny'n tueddu i gadarnhau bod 'cyfle i Siôn fynd' a 'cyfle i Siôn
i
fynd' yn gallu bod yn gywir (a hyn sy'n bwysig...) .. yn eu lle?
Yn y
cyfamser, dwi wedi cael gafael ar gopi o sylwadau Rhisiart Hincks yn
Barn
(Mai 1993). Adran fach mewn cyfres o dair erthygl ar ddefnyddio i yw
hwn,
ond mae'n sôn na ddylech chi golli'r i sy'n dynodi bwriad. "Yn yr
iaith
lafar bydd yr ail arddodiad i weithiau'n cael ei lyncu gan y
llafariad i
sy'n ei ragflaenu, ond bernir bod angen ei
ysgrifennu:
Roedd hi'n gyfle iddi i ennill
Mae croeso ichwi i
ymuno â ni"
-----Neges Wreiddiol/Original
Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]
Ar ran/On Behalf Of Geraint
Lovgreen
Sent: 03 Ebrill 2012 15:04
To:
[log in to unmask]
Subject:
Re: ATB/RE: Helpu
Rhoi cyfle i rywun wneud rhywbeth (heb yr ail 'i')
sy'n swnio'n iawn i mi.
"Rho siawns imi ateb" fyddai rhywun yn ddeud,
nid "rho siawns imi i ateb".
Ond o ran yr ymholiad gwreiddiol, 'helpu
i wneud' run fath â 'cynorthwyo i
wneud'.
Geraint
-----
Original Message -----
From: "Roberts, Nia" <[log in to unmask]>
To:
<[log in to unmask]>
Sent:
Tuesday, April 03, 2012 2:43 PM
Subject: Re: ATB/RE: Helpu
Os
ydy e o unrhyw help, mae 'na bwt ar dudalen 65 (v) Cywiriadur
Cymraeg
Morgan D Jones.
-----Original Message-----
From:
Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]
On Behalf Of Jones,Sylvia Prys
Sent: 03 April 2012 13:55
To: [log in to unmask]
Subject:
Re: ATB/RE: Helpu
Tra ydym yn trafod yr 'i' bondigrybwyll gaf i ofyn
cwestiwn hefyd.
Ydy'n iawn ysgrifennu Rhoi cyfle i rywun i wneud
rhywbeth.
Dw i'n meddwl bod hynny'n gywir ond mae cydweithiwr i mi yn
dweud bod
angen hepgor yr ail 'i'.
Byddwn yn falch o gael
ateb!
> Iawn!
> Dw i ar fy ffordd!!
>
>
Siân
>
> On 3 Apr 2012, at 13:37, David Bullock
wrote:
>
>> Mae'n fenthyciad, ond mae'r patrwm yn un digon
naturiol:
>>
>> Hoffwn i annog Siân i fynd, hoffwn i
sbarduno Siân i fynd, hoffwn i
>> ysbrydoli Siân i fynd, hoffwn i
orfodi Siân i fynd, hoffwn i helpu
>> Siân i
fynd.
>>
>>
>> *From:* Discussion of Welsh
language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]]
*Ar ran/On
>> Behalf Of *anna gruffydd
>> *Sent:* 03
Ebrill 2012 13:05
>> *To:* [log in to unmask]
>>
<mailto:[log in to unmask]>
>>
*Subject:* Re: Helpu
>>
>>
>> 'Helpu i' dwi
wedi'i glwad erioed - ella am mai benthyciad ydi o, dwn
>> i ddim,
ours not to reason why...
>>
>>
Anna
>>
>> 2012/4/3 Beryl H Griffiths <[log in to unmask]
>>
<mailto:[log in to unmask]>>
>>
Os gwelwch chi'n dda a wnaiff rhywun fy helpu? Mae gen i gwestiwn
sydd
>> yn fy mhoeni yn fawr ar y funud wrth ddefnyddio'r ferf
helpu. Mae fy
>> ngreddf yn dweud wrthai bod angen i ar ei ôl wrth
ddweud, er
>> enghraifft, helpu i leihau rhywbeth. Dwi'n gwybod ein
bod bob amser yn
>> ceisio cofio osgoi defnyddio'r 'i'
fondigrybwyll, ond mi fyddai 'helpu
>> gweld', 'helpu agor' yn taro
fy nghlust i yn ddieithr iawn. Ydwi'n
>> iawn yn meddwl mai
arddodiad ydi i yn fan hyn, ac felly bod gennym
>> hawl i'w
defnyddio? Neu ydwi wedi methu'n llwyr?
>>
>>
Beryl
>>
>>
>>
>
--
Dr Sylvia
Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]>
Pennaeth
yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit
Canolfan Bedwyr
Prifysgol
Bangor/Bangor University
--
Rhif Elusen Gofrestredig / Registered
Charity No. 1141565
Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a
anfonwyd gyda hi,
gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w
defnyddio'n unig
gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych
wedi derbyn y
neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr
ar
unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch
chi,
rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth
a
gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl
a'i
hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli
barn
Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu
bod y neges
e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu
100% yn
ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn
nhestun yr
e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract
rhwymol - mae
rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa
Cyllid Prifysgol
Bangor. www.bangor.ac.uk
This email and any attachments may
contain confidential material and
is solely for the use of the intended
recipient(s). If you have
received this email in error, please
notify the sender immediately
and delete this email. If you are not
the intended recipient(s), you
must not use, retain or disclose any
information contained in this
email. Any views or opinions are
solely those of the sender and do
not necessarily represent those of
Bangor University.
Bangor University does not guarantee that this email
or
any attachments are free from viruses or 100% secure.
Unless
expressly stated in the body of the text of the email, this
email is
not intended to form a binding contract - a list of
authorised
signatories is available from the Bangor University
Finance
Office. www.bangor.ac.uk