Mae pobol Llyn yn galw 'horsefly' yn 'bry llwyd', achos dw i'n cofio ngwr i'n deud wrtha i ar ôl inni briodi ei fod o wedi cael ei frathu gan bry llwyd. Ro'n i'n disgwyl gweld ôl dannedd mawr a lot o waed (ar ôl pry llwyd sir Ddinbych) ond smotyn coch pitw bach oedd yno! Dyn medde fi!
Rhian
-----Original Message----- From: Sian Roberts
Sent: Monday, April 30, 2012 11:49 AM
Subject: Re: Woodlice / woodlouse (Oniscidea)
Da! Mae angen botwm "Hoffi"
yma!
Dim ond am "mochyn daear" dw i wedi clywed "pry llwyd".
On 30 Ebrill 2012, at 11:37, Ann Corkett wrote:
Oes gennych chi gopi o Eiriadur yr Academi'n handi?
Ann
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
Sent: 29 April 2012 22:09
Subject: Woodlice / woodlouse (Oniscidea)
Ym Mhen Llyn pry' llwyd oeddan ni'n galw rhain.
Oes ganddyn nhw enwau Cymraeg eraill? Mae
na amryw o wahanol enwau yn
Saesneg (e.e. 'pillbug', 'slater').
Dafydd