Diddorol gweld mai (occ) ydy 'crachen ludw' yn GyA - o'n i erioed wedi clywed am air arall nes imi synud i'r De! Crachan ludw faswn i'n ei ddweud bob amser. Catrin ________________________________ From: Sian Reeves <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Monday, 30 April 2012, 12:25 Subject: Re: Woodlice / woodlouse (Oniscidea) 'pry llwyd' fyddai nhad (o Sir Fôn) yn ei ddweud am 'horsefly' hefyd, a 'moch y coed' am 'woodlice' ________________________________ From: Sian Roberts <[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Monday, 30 April 2012, 12:22 Subject: Re: Woodlice / woodlouse (Oniscidea) Ha, ha! Ti newydd neud i fi dagu ar 'y misgïen! Yn ôl GPC mae "pry llwyd" yn cael ei ddefnyddio yn Arfon am "horsefly" ac am bobl sy'n "brathu"! On 30 Ebrill 2012, at 12:08, Rhian Jones wrote: Mae pobol Llyn yn galw 'horsefly' yn 'bry llwyd', achos dw i'n cofio ngwr i'n deud wrtha i ar ôl inni briodi ei fod o wedi cael ei frathu gan bry llwyd. Ro'n i'n disgwyl gweld ôl dannedd mawr a lot o waed (ar ôl pry llwyd sir Ddinbych) ond smotyn coch pitw bach oedd yno! Dyn medde fi! >Rhian > > >-----Original Message----- From: Sian Roberts >Sent: Monday, April 30, 2012 11:49 AM >To: [log in to unmask] >Subject: Re: Woodlice / woodlouse (Oniscidea) > > >Da! Mae angen botwm "Hoffi" yma! > > >Dim ond am "mochyn daear" dw i wedi clywed "pry llwyd". > > > > >On 30 Ebrill 2012, at 11:37, Ann Corkett wrote: > > >Oes gennych chi gopi o Eiriadur yr Academi'n handi? >> >> >>Ann >> >> >>-----Original Message----- >>From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >>[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Lewis >>Sent: 29 April 2012 22:09 >>To: [log in to unmask] >>Subject: Woodlice / woodlouse (Oniscidea) >> >> >>Ym Mhen Llyn pry' llwyd oeddan ni'n galw rhain. >> >> >>Oes ganddyn nhw enwau Cymraeg eraill? Mae na amryw o wahanol enwau yn >>Saesneg (e.e. 'pillbug', 'slater'). >> >> >>Dafydd