Bydden i'n mynd am rif 2, fy hunan, dw i'n meddwl ei fod yn cyfleu bwriad y cwestiwn Saesneg yn gywir, a hefyd yn gwbl eglur (yn fwy eglur na'r Saesneg dweud y gwir!). Osian 2012/4/29 Owen Thomas <[log in to unmask]> > Tybed beth yw eich barn am gyfieithu'r frawddeg Saesneg isod: > > 'Discuss Gareth’s criminal liability, if any, for the death of Angharad.' > > Cyfraith Trosedd yw'r maes a daw'r frawddeg o bapur arholiad (felly mae'n > bwysig bod myfyrwyr yn deall ergyd y cwestiwn!). > > Dyma’r cynigion hyd yn hyn: > > 1 Trafodwch a ydyw Gareth yn atebol yn droseddol am farwolaeth Angharad. > > 2 Trafodwch i ba raddau, os o gwbl, y mae Gareth yn atebol yn droseddol am > farwolaeth Angharad. > > 3 Trafodwch atebolrwydd troseddol Gareth am farwolaeth Angharad, os oes > atebolrwydd troseddol o gwbl. > > 4 Trafodwch atebolrwydd troseddol Gareth am farwolaeth Angharad, os yw’n > atebol yn droseddol o gwbl. > > P'un y byddech chi'n ei ffafrio, a pham? > > Diolch. > > Owen >