Diolch Geraint, er bod y gwaith wedi mynd yn ôl ers tro. O fyd buddsoddi/betio mae’r dywediad yn dod a dwi ddim yn arbenigwraig o gwbl ar yr un o’r ddau faes. Ond yn ei hanfod dwi’n meddwl ei fod yn cyfeirio at ‘ystod’ o ganlyniadau posibl ac os bydd y canlyniad (ym mha bynnag faes) yn uwch neu’n is na’r ‘spread’. Dyna pam mod i wedi cynnig betio ystod, ond i rywun na fyddai wedi ei weld o’r blaen dwi ddim yn siŵr fyddai’r ystyr yn amlwg o gwbl. Ond dyne fo, doedd ystyr y Saesneg ddim yn glir i minne. Beryl From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 27 April 2012 11:37ŵ To: [log in to unmask] Subject: Re: Spread betting Newydd weld hwn - aeth i'r ffolder sbam. Bet gwasgar? dwi ddim yn fetiwr, ond dwi'n meddwl mai un bet sy'n cael ei wasgaru dros sawl ras sydd yma. ----- Original Message ----- From: Beryl H Griffiths <mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, April 18, 2012 12:09 PMŵ Subject: Spread betting Tybed oes ‘na rywun wedi gorfod cyfieithu’r uchod o’r blaen? Yn ôl Wikipedia: A spread is a range of outcomes and the bet is whether the outcome will be above or below the spread. Felly, o ddefnyddio rhywbeth fel ‘betio ystod’ a fyddai gan unrhyw ddarllenydd syniad at beth fyddwn i’n cyfeirio? Neu oes ‘na derm cydnabyddedig? Beryl