Aha! Roeddwn i'n dymuno codi'r mater yma yng ngweithdy Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yr wythnos ddiwetha ond allwn i ddim meddwl am enghraifft berthnasol ar y pryd. Mae gen i ryw gof bod rhywun wedi dweud bod Rhisiart Hincks wedi sgrifennu erthygl ar y mater yn Barn - ond mae hynny flynyddoedd maith yn ôl erbyn hyn. Edrych ymlaen at gael ateb i'r broblem. Siân On 3 Apr 2012, at 13:55, Jones,Sylvia Prys wrote: > Tra ydym yn trafod yr 'i' bondigrybwyll gaf i ofyn cwestiwn hefyd. > > Ydy'n iawn ysgrifennu Rhoi cyfle i rywun i wneud rhywbeth. > > Dw i'n meddwl bod hynny'n gywir ond mae cydweithiwr i mi yn dweud > bod angen hepgor yr ail 'i'. > > Byddwn yn falch o gael ateb! >> Iawn! >> Dw i ar fy ffordd!! >> Siân >> On 3 Apr 2012, at 13:37, David Bullock wrote: >>> Mae’n fenthyciad, ond mae’r patrwm yn un digon naturiol: >>> Hoffwn i annog Siân i fynd, hoffwn i sbarduno Siân i fynd, >>> hoffwn i ysbrydoli Siân i fynd, hoffwn i orfodi Siân i fynd, >>> hoffwn i helpu Siân i fynd. >>> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and >>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/ >>> On Behalf Of *anna gruffydd >>> *Sent:* 03 Ebrill 2012 13:05 >>> *To:* [log in to unmask] <mailto:WELSH-TERMAU- >>> [log in to unmask]> >>> *Subject:* Re: Helpu >>> >>> 'Helpu i' dwi wedi'i glwad erioed - ella am mai benthyciad ydi o, >>> dwn i ddim, ours not to reason why... >>> >>> Anna >>> >>> 2012/4/3 Beryl H Griffiths <[log in to unmask] >>> <mailto:[log in to unmask]>> >>> Os gwelwch chi’n dda a wnaiff rhywun fy helpu? Mae gen i gwestiwn >>> sydd yn fy mhoeni yn fawr ar y funud wrth ddefnyddio’r ferf >>> helpu. Mae fy ngreddf yn dweud wrthai bod angen i ar ei ôl wrth >>> ddweud, er enghraifft, helpu i leihau rhywbeth. Dwi’n gwybod ein >>> bod bob amser yn ceisio cofio osgoi defnyddio’r ‘i’ >>> fondigrybwyll, ond mi fyddai ‘helpu gweld’, ‘helpu agor’ yn taro >>> fy nghlust i yn ddieithr iawn. Ydwi’n iawn yn meddwl mai >>> arddodiad ydi i yn fan hyn, ac felly bod gennym hawl i’w >>> defnyddio? Neu ydwi wedi methu’n llwyr? >>> Beryl >>> > > > -- > Dr Sylvia Prys Jones 01248 382036 <[log in to unmask]> > > Pennaeth yr Uned Gyfieithu/Head of Translation Unit > Canolfan Bedwyr > Prifysgol Bangor/Bangor University > > -- > Rhif Elusen Gofrestredig / Registered Charity No. 1141565 > > Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, > gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig > gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y > neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar > unwaith a dilëwch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, > rhaid i chi beidio â defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a > gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i > hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn > Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu > bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu > 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn > nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract > rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa > Cyllid Prifysgol Bangor. www.bangor.ac.uk > > This email and any attachments may contain confidential material and > is solely for the use of the intended recipient(s). If you have > received this email in error, please notify the sender immediately > and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you > must not use, retain or disclose any information contained in this > email. Any views or opinions are solely those of the sender and do > not necessarily represent those of Bangor University. > Bangor University does not guarantee that this email or > any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless > expressly stated in the body of the text of the email, this email is > not intended to form a binding contract - a list of authorised > signatories is available from the Bangor University Finance > Office. www.bangor.ac.uk